Prosiect Gogledd Cymru

Y nod oedd cefnogi 30 o fudiadau trydydd sector ledled Gogledd Cymru, pump ym mhob sir. Yn dilyn proses ymgeisio, bu 28 o fudiadau’n llwyddiannus ac fe’u gwahoddwyd i fod yn rhan o’r prosiect a derbyn cefnogaeth i wreiddio gwerth cymdeithasol yn eu mudiadau dros gyfnod o ddwy flynedd. Un o nodau Social Value Cymru oedd sicrhau bod amrywiaeth o fudiadau’n cymryd rhan yn y prosiect. Roedd y 28 mudiad yn cynnwys rhai cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ac edrychodd hefyd ar drawstoriad o wasanaethau yn cynnwys iechyd meddwl, plant a phobl ifanc, anableddau dysgu a chorfforol, pobl hŷn, prosiectau cymunedol, camdriniaeth ddomestig a rhywiol, y celfyddydau, rhaglenni cyflogaeth a’r iaith Gymraeg.

Roedd y prosiect yn rhedeg 0 2017-2020.

 

 

image

Cyfle cyffroes i fudiadau trydydd sector gan y chwe Chyngor Gwirfoddol Sirol yng Ngogledd Cymru

- Datganiad i'r wasg - cliciwch yma

Pwy yw’r mudiadau yn cymeryd rhan? – cliciwch yma