Rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru
Mae gwerth cymdeithasol yn fodd i ni ddeall gwerth y newid ym mywydau pobl.
Sut byddai'r bobl yr ydych yn gweithio’n agos gyda nhw’n egluro'r canlyniadau pwysicaf iddynt yn sgîl eich gweithgareddau?
A fyddent yn edrych ar eich perfformiad ariannol? Neu a fyddent yn cyfeirio at bethau megis eu bod yn fwy hyderus, neu mewn iechyd gwell, mewn tai mwy addas, wedi lleihau ymddygiad niweidiol, neu lai tebygol o fod angen cymorth gwasanaethau cymdeithasol?
Os ydy newidiadau fel hyn yn ganlyniad i’ch gwaith, mi rydych yn creu gwerth cymdeithasol!
Mae Gwerth Cymdeithasol yn ymwneud â:
- Dangos beth sydd wedi newid yn mywydau pobl o ganlyniad i’ch gweithgareddau
- Rhoi gwerth ar y newidiadau hynny
Mae’r rhwydwaith yn parhau i dyfu!
Mae nifer cynyddol o fudiadau trydydd sector gogledd Cymru’n ymwneud â gwerth cymdeithasol a rhai yn ystyried cychwyn ar y daith. Beth bynnag eich sefyllfa, mae’r Rhwydwaith yma i’ch cefnogi. Ymunwch gyda ni ar gyfer ein cyfarfod nesaf:
DYDD LLUN, 11 GORFFENNAF 2022 RHWNG 10.30 – 12.30 O’R GLOCH – Rhaglen ddrafft
Lleoliad: Ar lein/Hybrid/Wyneb yn wyneb – i’w gadarnhau
-
Arwel Evans, Rheolwr Caffael, Cyngor Gwynedd yn cyflwyno’r berthynas rhwng rhai elfennau o’r Asesiad Anghenion a’r TOMs Cymreig.
-
Profiadau Gwerth Cymdeithasol sefydliad trydydd sector o Wynedd – i’w gadarnhau
Flier Rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru