Llywodraethu

Yn yr adran hon cewch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau i'ch cynorthwyo gyda'ch gwaith fel ymddiriedolwr neu aelod o bwyllgor gwirfoddol i helpu ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth; ac i'ch cynorthwyo gyda rhedeg eich elusen/ grŵp cymunedol neu fudiad gwirfoddol yn gyfreithiol ac yn effeithiol.

Ystyr 'ymddiriedolwr' yw aelod o bwyllgor rheoli, pwyllgor gwaith neu fwrdd cyfarwyddwyr grŵp cymunedol neu fudiad gwirfoddol. Yn aml mae ymddiriedolwyr yn defnyddio teitlau eraill megis: cyfarwyddwyr, aelodau'r bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau'r pwyllgor.

Trwy'r adran hon o'r wefan, gallwch edrych ar:

  • Daflenni gwybodaeth am faterion cyffredinol i ymddiriedolwyr
  • Adnoddau defnyddiol eraill i ymddiriedolwyr
  • Gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau i ymddiriedolwyr sydd ar y gweill
  • Dolenni i wefannau eraill sy'n rhoi gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i ymddiriedolwyr

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei angen arnoch, neu os oes gennych gwestiwn penodol yr hoffech ei ofyn, croeso i chi gysylltu â ni.

 

I weld ein calendr Digwyddiadau / Hyfforddiant, cliciwch yma.