Canolfan Gwirfoddoli

Croeso i Ganolfan Gwirfoddoli Gwynedd ble gellir cael gwybodaeth am gyfleoedd lleol a chymorth i ddechrau gwirfoddoli. Rydym yn darparu cyngor ac awreiniad wyneb yn wyneb, dros y ffôn, yn rhithiol neu drwy ebost.

Cysylltwch gyda ni:

gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
01286 672 626

Cofiwch ddilyn ni ar ein safleoedd cymdeithasol am y wybodaeth diweddaraf.
Rydym bellach yn gweithio ar lefel hybrid o ddydd Llun i Gwener, 9am-5pm a gellir trefnu sgwrs dros y ffôn neu’n rhithiol.

CYFLEOEDD GWIRFODDOLI

Gwirfoddoli Cymru yw’r safle cendlaethol ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli felly cofiwch gofrestru gyda ni. Cliciwch yma ar gyfer safle Gwirfoddoli Cymru

Llun o safle we Gwirfoddoli Cymru - Cliciwch yma ar gyfer safle Gwirfoddoli Cymru

PAM GWIRFODDOLI?

Gwirfoddoli yw rhoi eich amser i wneud rhywbeth defnyddiol o fudd y gymuned heb gael eich talu. Gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych i:
• fagu hyder
• canfod ddiddordebau newydd
• cyfarfod pobl newydd
• dysgu sgiliau a chyfoethogi eich CV
• CAEL HWYL!

Gall Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd eich helpu i ddatblygu polisiau, gweithdrefnau ac ymarfer da gyda rheoli gwirfoddolwyr. Gallwn hefyd helpu gyda recriwtio gwirfoddolwyr drwy gofrestru ar safle we cendlaethol, Gwirfoddoli Cymru.

Am gefnogaeth neu sgwrs, cysylltwch: gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cliciwch yma i lawrlwytho'r Côd Ymarfer ar gyfer Cynnwys Gwirfoddolwyr

 


 

Mae llu o wybodaeth ac adnoddau ar gael trwy wefan hwb gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru (mae angen cofrestru er mwyn cael mynediad at yr wybodaeth)


Meddwl am wirfoddoli

Datblygu strategaeth gwirfoddolwyr

Creu polisi gwirfoddoli

Sut i sicrhau bodlonrwydd gwirfoddolwyr

Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel

Asesiadau risg - gwirfoddolwyr sy’n gweithio o’u cartrefi

Cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr

Gwirfoddoli a chymorth cyflogwr

Rheoli ymadawiadau gwirfoddolwyr

Gwirfoddolwyr ac yswiriant

Rheoli pryderon yn ymwneud â gwirfoddolwyr

BANC ARGYFWNG GWIRFODDOLWYR GWYNEDD

Allech chi fod ar gael?

Mae Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd yn llunio cofrestr newydd o wirfoddolwyr fyddai'n awyddus i helpu unigolion yn ein cymunedau mewn sefyllfa o argyfwng.

Rydym yn paratoi ar gyfer sefyllfaoedd ble fydd gofyn am gymorth megis cyfnod clo COVID-19, llifogydd, neu fwy

Gall rolau gynnwys:

  • Siopa
  • Cadw cwmni
  • Gyrru a danfon nwyddau
    ..a llawer mwy yn ôl yr angen

Os hoffwch wirfoddoli hefo Ni, llenwch y ffurflen isod:

Ffurflen Banc Gwirfoddolwyr Argyfwng Gwynedd

Diolch am eich diddordeb mewn cofrestru ar Fanc Argyfwng Gwirfoddolwyr Gwynedd!