Polisi Cwcis
Mae rhai gwefannau’n storio symiau bach o ddata o’r enw ‘cwcis’ ar eich cyfrifiadur i gofio os fuoch chi ar y
wefan honno o’r blaen. Maen nhw hefyd yn eich galluogi i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein yn haws. Dysgwch sut gallwch chi reoli pa gwcis, os o gwbl, a gaiff eu storio ar eich cyfrifiadur.
Beth yw cwci?
Mymryn bach o ddata yw cwci, a gaiff ei anfon gan wefan i’ch cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol. Mae’n golygu bydd y wefan yn gallu adnabod eich dyfais (eich cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol) os byddwch yn dychwelyd i’r un wefan. Yn aml, mae cwci’n cynnwys cod adnabod unigryw wedi’i gynhyrchu ar hap. Caiff hwn ei storio ar yriant caled eich dyfais. Mae llawer o gwcis yn cael eu dileu’n awtomatig wedi ichi orffen defnyddio gwefan. Nid rhaglenni mo cwcis ac nid ydynt yn casglu gwybodaeth o’ch cyfrifiadur.
Pam mae rhai gwefannau’n defnyddio cwcis?
Mae gwefannau’n defnyddio cwcis am amryw o resymau. Dyma rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin.
- I ddeall beth mae ymwelwyr â’r wefan am ei ddefnyddio a beth nad ydyn nhw am ei ddefnyddio.
- I weld faint o bobl sy’n edrych ar wefannau penodol. Gall hyn helpu mudiadau i wneud eu gwefannau’n fwy defnyddiol.
- I gofio eich dewisiadau neu’r hyn rydych yn ei ffafrio wrth edrych ar wybodaeth neu ddefnyddio gwasanaeth.
- Gall cwcis alluogi gwefannau i wella’r gwasanaeth a dderbyniwch ac archifo’r hyn na chaiff ei ddefnyddio. Er enghraifft, gallech deilwra tudalen hafan gwefan newyddion i ddangos dim ond newyddion am y pynciau sydd o ddiddordeb i chi. Byddai’r cwci yn ‘cofio’ hyn a byddai’r wefan yn cyflwyno’r wybodaeth yr hoffech ei weld y tro nesaf y byddwch yn ei defnyddio.
- Eich galluogi i gwblhau tasg heb ailgyflwyno gwybodaeth a roesoch eisoes o’r blaen.
Mae angen i rai gwasanaethau storio cwci yn eich cyfrifiadur er mwyn iddyn nhw weithio.
- I reoli pa hysbysebion a welwch ar rai gwefannau
Pa gwcis a ddefnyddir ar wefan Mantell Gwynedd?
Rydym yn defnyddio cwcis am y rhesymau a restrir isod – maen nhw oll yn bwysig i’r ffordd y mae’r safle’n gweithio ac nid yw’r un ohonyn nhw’n casglu unrhyw ddata personol
_atuvc,_ atuvs
Defnyddir y cwcis hyn o’r teclyn rhannu cymdeithasol AddThis i wneud yn siŵr
eich bod yn gweld y cyfrif diweddaraf pan fyddwch yn rhannu tudalen.
Sut i reoli eich cwcis
Caiff cwcis eu hanfon i’ch porwr gan wefan, ac yna eu storio yng nghyfeiriadur cwcis eich cyfrifiadur. Efallai mai Internet Explorer, Google Chrome, Firefox, Safari neu ryw borwr arall sydd gennych.
I wirio a diweddaru eich gosodiadau cwcis, bydd angen i chi wybod pa borwr rydych chi’n ei ddefnyddio a pha fersiwn ohono. Gallwch ddarganfod hyn fel arfer trwy agor y porwr (fel y gwnewch i ddefnyddio’r we), yna clicio ar ‘Help’ ac yna ‘About’. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth am fersiwn y porwr rydych chi’n ei ddefnyddio.