Prosiect Gafael Llaw i Wirfoddoli
Trosolwg
Croeso i dudalen y Prosiect Gafael Llaw i Wirfoddoli! Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn ogystal â Chronfa Cymunedol y Loteri. Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan Ganolfan Gwirfoddoli Gwynedd, yn ymroddedig i gefnogi unigolion a grymuso cymunedau drwy gysylltu gwirfoddolwyr angerddol â chyfleoedd i wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Prif amcan y cynllun yw darparu cymorth un-i-un i unigolion sydd ag anghenion cymorth ychwanegol, ac a allai elwa o gymorth i wirfoddoli. Mae'r gefnogaeth yn estyniad o'n gwasanaeth broceriaeth presennol, ble mae ein swyddogion ymroddedig yn cefnogi unigolion trwy gydol y broses wirfoddoli: eu paru â lleoliadau addas, rhoi cefnogaeth i lenwi ffurflenni cofrestru, mynychu ymweliadau safle, ac yn bennaf oll rhoi help llaw trwy gydol eu taith gwirfoddoli.
Amcanion Y Prosiect
Nodau y Prosiect Gafael Llaw i Wirfoddoli yw:
- Ysbrydoli unigolion sydd ag anghenion cymorth ychwanegol i wirfoddoli drwy arddangos yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael.
- Cefnogi sefydliadau lleol drwy eu paru â gwirfoddolwyr ymroddedig.
- Gwella datblygiad personol a phroffesiynol gwirfoddolwyr trwy ddarparu arweiniad, hyfforddiant a mentora.
Ein gweledigaeth yw creu diwylliant gwirfoddoli bywiog sy’n cyfoethogi bywydau ac yn adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn.
Cymerwch Ran
P'un a ydych yn unigolyn sy'n awyddus i wirfoddoli neu'n asiantaeth sy'n dymuno cyfeirio unigolion at wirfoddolwyr, mae'r Prosiect Gafael Llaw i Wirfoddoli yma i'ch cynorthwyo.
Sut I Gymryd Rhan
Cysylltwch â’n swyddogion am ragor o wybodaeth neu i lenwi ffurflen atgyfeirio:
Jordan.thomas@mantellgwynedd.com
Neu cliciwch yma i gwblhau'r ffurflen atgyfeirio


