Cymru Garedig

cymru garedig

Gweledigaeth Cymru Garedig yw bod yn genedl ystyriol a gofalgar sy’n dod ynghyd i ddatblygu dulliau tosturiol i gefnogi iechyd a lles pobl. Mae Cymru Garedig yn gweithio gydag unigolion, sefydliadau a chymunedau i wella sut mae pobl yng Nghymru yn gofalu, yn marw ac yn galaru.

Yn 2018, nododd Llywodraeth Cymru ei ddyhead i Gymru ddod yn ‘wlad dosturiol’ gyntaf y byd. Ers hynny mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ledaenu’r ymagwedd dosturiol ledled Cymru.

Nod Cymru Garedig yw helpu pobl i gyrchu a chynnig gwybodaeth, gofal a chefnogaeth mewn modd tosturiol yn eu cymunedau. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar ofal a chefnogaeth ar ddiwedd oes pobl, pryd bynnag y bydd hynny’n digwydd.
Mae Mantell Gwynedd yn falch o fod yn rhan o’r datblygiad unigryw yma a thrwy gydweithrediad gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru sicrhawyd y cyllid angenrheidiol i gyflogi Swyddog Compassionate Cymru gan Mantell Gwynedd sydd yn gweithio ar draws Gwynedd, Môn a Chonwy.

Prif feysydd y cynllun ydi:

  • Hyrwyddo agweddau tosturiol
  • Cefnogi rhwydweithiau lleol sydd yn hyrwyddo agweddau tosturiol
  • Mapio gwasanaethau gofal diwedd oes a gwasanaethau galar a chreu Map Gwasanaeth gyda’r bwriad o fynd ati i geisio llenwi bylchau gwasanaeth sydd wedi eu hadnabod. Bydd hyn yn ei dro yn ceisio sicrhau gwasanaeth diwedd oes cyflawn ac addas o fewn ein cymunedau.
  • Cefnogi mannau gwaith i fabwysiadu polisïau ar gyfer
    • cefnogi unigolion sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd sy’n lleihau bywyd
    • cefnogi unigolion sy’n delio gyda marwolaeth a phrofedigaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda:

Carina Roberts
Cydlynydd Cymunedol Cymru Garedig
Mantell Gwynedd
E-bost: carina.roberts@mantellgwynedd.com
Ffon: 01286 672626