Prosiect Ffrindia' Newydd
Croeso i brosiect cyfeillio Ffrindia’ Newydd! Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) hyd at fis Mawrth 2026. Sefydlwyd y cynllun i geisio cefnogi unigolion yn y gymuned sydd yn profi unigrwydd, gan hybu eu hunanhyder ac annibyniaeth. Prif amcan y cynllun yw recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr i gyfeillio ag unigolion dros 50 oed sydd angen ychydig o gwmni, hwb i’w hyder neu gefnogaeth i ailgysylltu â'u cymuned.
Ystyr cyfeillio yw darparu cwmnïaeth a chyfeillgarwch i’r rhai sydd ei angen. Mae Ffrindia’ Newydd yn cynnig sgwrs gyfeillgar, cefnogaeth i fynd allan am dro neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chymorth i gymryd rhan mewn clybiau neu weithgareddau lleol. Nid yw gwirfoddolwyr Ffrindia’ Newydd yn darparu gofal personol, rheoli materion ariannol bob dydd nac yn cynnig cludiant i apwyntiadau iechyd. Gall gwasanaethau cymdeithasol, mudiadau trydydd sector, timau presgripsiwn cymdeithasol, teulu neu ffrindiau gyfeirio atom ni unigolion a fyddai’n elwa fwyaf o’r cynllun hwn. Mae hunangyfeirio hefyd yn opsiwn.
Amcanion y Prosiect
Mae’r cynllun hwn yn ceisio:
- Codi annibyniaeth a hyder unigolion sydd ar ffiniau’r gymuned
- Rhoi profiad gwirfoddoli ystyrlon a boddhad personol i wirfoddolwyr
- Lleihau unigrwydd a chreu cymunedau cryf a chyfeillgar!
CYMERWCH RAN – RYDYM NI EISIAU CHI!
Ydych chi’n berson cymdeithasol a chyfeillgar? Oes gennych chi ychydig o oriau i’w sbario? Gwnewch wahaniaeth yn eich cymuned - gwirfoddolwch gyda ni!
P’un a ydych yn berson sydd yn awyddus i wirfoddoli ac yn frwdfrydig i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn neu’r ydych yn adnabod rhywun yr ydych yn meddwl buasai’n elwa o dderbyn cwmnïaeth, mae’r prosiect yma i chi!
Cliciwch ar y linc isod i ddysgu mwy am y rôl!
Rol Ddisgrifiad - Cyfaill Gwirfoddol (PDF)
Sut i Ymuno
Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli neu i gyfeirio rhywun at y wasanaeth, cysylltwch â swyddog y prosiect:
beca.gruffydd@mantellgwynedd.com / 01286 672 626
Ffurflen gofrestru i wirfoddolwyr
