Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys MÔn ar y Cyd

CYLCH GORCHWYL

Mae'r cylch gorchwyl a ganlyn yn disgrifio pwrpas a swyddogaeth y Bwrdd, gan gynnwys ei gyfrifoldebau lleol, ei aelodaeth a'i weinyddiaeth.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn yn fyrddau statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae cytundeb bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn cyd-weithio yn unol â’r egwyddorion sydd wedi eu hamlinellu yn Atodiad A.

1.1 Pwrpas y Bwrdd yw cydweithio ar draws ffiniau sefydliadol i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Gwynedd ac Ynys Môn.

1.2 Wrth gyd-weithio i’r diben hwn, bydd y Bwrdd yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol fel y nodir yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):

  • Cymru fwy ffyniannus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru ag iddi ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus
  • Cymru sy'n gyfrifol am y ddaear

1.3 Prif egwyddor gweithgaredd y Bwrdd yw datblygiad cynaliadwy. Golyga hyn weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau y bodlonir anghenion heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain.

1.4 Bydd y Bwrdd yn gweithio mewn ffyrdd sy’n cymryd ystyriaeth yr hir dymor, yr angen am waith ataliol, integreiddio, cydweithio a chynnwys dinasyddion.

1.5 Bydd y Bwrdd hefyd yn gweithio gyda’i gilydd i gryfhau arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus lleol i fynd i’r afael â’r heriau ‘sylfaenol a heb eu diwallu’ o safbwynt dinasyddion a sicrhau ymateb system-gyfan effeithiol i anghenion dinasyddion.

1.6 Bydd aelodau’r Bwrdd yn datblygu perthnasau effeithiol sy’n seiliedig ar barch, gonestrwydd, cyfrifoldeb ar y cyd, ymddiriedaeth agored er mwyn goresgyn a dileu rhwystrau sefydliadol.

1.7 Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Fe fydd pob aelod yn paratoi adroddiadau yn ddwyieithog.

2.1 Mae gan y Bwrdd bedair prif dasg:

  • Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Ynys Môn a Gwynedd;
  • Paratoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd gan sefydlu amcanion lleol a'r camau y bwriedir eu cymryd i'w cyflawni;
  • Cymryd pob cam rhesymol i gwrdd â’r amcanion lleol a sefydlwyd ganddynt;
  • Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n sefydlu cynnydd y Bwrdd wrth iddo geisio cyflawni’r amcanion lleol.

2.2 Anfonir copi o'r asesiad llesiant, y cynllun llesiant a phob adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru, y Comisiynydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgorau craffu / scriwtini y cynghorau.

Aelodau Statudol

3.1 Pedwar aelod statudol y Bwrdd yw:

  • Awdurdodau Lleol (Arweinydd a Phrif Weithredwr)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Cadeirydd ac/neu Prif Weithredwr)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Cadeirydd ac/neu Prif Swyddog)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (Prif Weithredwr)

3.2 Gellir dynodi unigolion i gynrychioli unrhyw un o'r rhai a enwir uchod. Ni all Arweinydd y Cyngor ond dynodi aelod arall o Gabinet y Cyngor i'w gynrychioli.

3.3 Dylai unrhyw gynrychiolwyr dynodedig fod â'r awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran eu sefydliad.

Cyfranogwyr Gwadd

3.4 Bydd y gwahoddedigion statudol a ganlyn yn derbyn gwahoddiad i gyfranogi yng ngweithgaredd y bwrdd:

  • Gweinidogion Cymru
  • Gynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru
  • Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Cynrychiolydd y Gwasanaeth Prawf
  • Y Trydydd Sector

3.5 I’r raddau y mae’r gyfraith yn ei caniatáu, bydd aelodau’r Bwrdd yn aelod cyfartal o’r Bwrdd. Byddwn yn trin pob aelod o’r Bwrdd fel aelod cyfartal.

Partneriaid eraill

3.6 Bydd y Bwrdd yn cysylltu â phartneriaid allweddol yn yr ardal sy'n gweithredu swyddogaeth o natur gyhoeddus ac sydd â diddordeb materol yn llesiant yr ardal; darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig ac sydd yn gysylltiedig â pharatoi, gweithredu a darparu gwaith y bwrdd.

3.7 Gall y Bwrdd ystyried pa gyrff eraill, os o gwbl, mae’n dymuno cymryd rhan yn ei waith ac i ba raddau. Yr unig amod yw bod yn rhaid iddynt arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Dylai’r aelodaeth gael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau a nodwyd gan yr amcanion lles yn cael eu cefnogi ac adnoddau ar gyfer cyflawni.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

4.1 Bydd y Bwrdd yn cynnal 'cyfarfod gorfodol' dan gadeiryddiaeth yr Awdurdod Lleol, ddim hwyrach na 60 niwrnod ar ôl pob etholiad cyffredin a gynhelir i ethol cynghorwyr. Ddylai’r Byrddau gyfarfod fel Byrddau ar wahân ar ôl etholiadau ac i ail gytuno ar gydweithio / uno fel bo’n briodol.

4.2 Yn y cyfarfod gorfodol bydd aelodau'n penodi cadeirydd ac is-gadeirydd allan o aelodau statudol a’r cyfranogwyr gwadd.
4.3 Bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn chwarterol gyda dyddiadau yn cael eu gosod ar ddechrau pob blwyddyn ariannol.
4.4 Gall cyfarfodydd ychwanegol gael eu galw fel y cytunwyd gan y Bwrdd.

Is-grwpiau

4.5 Bydd hawl gan y Bwrdd sefydlu is-grwpiau er mwyn ei gefnogi i weithredu ei swyddogaethau a gall y bwrdd awdurdodi'r is-grwpiau i weithredu nifer cyfyngedig o'i swyddogaethau. Dylai bob is-grŵp adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd.

4.6 Rhaid i bob is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnwys o leiaf un aelod neu ddirprwy o'r bwrdd fydd yn cadeirio'r is-grŵp a gall gynnwys unrhyw gyfranogwr gwahoddedig neu bartner arall.

4.7 Ni all is-grwpiau:

  • wahodd pobl i gyfranogi yng ngweithgaredd y bwrdd;
  • sefydlu, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;
  • paratoi neu gyhoeddi asesiad llesiant;
  • ymgynghori ar asesiad llesiant neu baratoi asesiad drafft at ddibenion ymgynghorol;
  • paratoi neu gyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol;
  • ymgynghori ar gynllun llesiant lleol neu baratoi cynllun llesiant lleol drafft at ddibenion ymgynghorol;
  • adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;
  • ymgynghori ar ddiwygiad i gynllun llesiant lleol;
  • cytuno fod y bwrdd yn yno neu'n cydweithio â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall;

4.8 Penderfynir amcanion pob is-grŵp gan y Bwrdd pan sefydlir yr is-grŵp.

4.9 Bydd pob is-grŵp yn paratoi cylch gorchwyl a bydd cadeirydd yr is-grŵp yn ei gyflwyno i'r Bwrdd i'w gymeradwyo.

5.1 Ni fydd penderfyniadau'r Bwrdd, er enghraifft, penderfyniad ar asesiad llesiant lleol a'r cynllun llesiant lleol, yn ddilys ond pan gant eu gwneud ar y cyd ac yn unfrydol gan yr holl aelodau a chyda pob aelod yn bresennol.

5.2 Petai anghytundeb rhwng aelodau, yna cyfrifoldeb y cadeirydd yw cymodi cytundeb a sicrhau y cyflwynir hynny yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd sydd ar gael neu os bydd angen mewn cyfarfod arbennig.

5.3 Os nad oes modd cael cytundeb unfrydol yr holl aelodau yn unol a 5.1 uchod ac os nad yw’r Cadeirydd yn gallu cymodi yn unol a 5.2 yna fe gyfyngir y penderfyniad i’r
aelodau statudol yn unig.

6.1 Bydd Rheolaeth a chefnogaeth Gweinyddol ar gyfer y Bwrdd yn cael ei ddarparu gan Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn yn gyfartal. Mae hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei sefydlu ac yn cyfarfod yn rheolaidd
  • Paratoi agenda a chomisiynu papurau ar gyfer y cyfarfod
  • Gwahodd cyfranogwyr a rheoli presenoldeb
  • Cydlynu’r gwaith o baratoi’r adroddiad blynyddol
  • Paratoi tystiolaeth ar gyfer craffu / sgertin

6.2 Cyfrifoldeb pob aelod statudol yn gyfartal fydd adnoddau ar gyfer swyddogaethau’r Bwrdd. Bydd y cyfraniadau yn cael eu cytuno a’i hadolygu gan y Bwrdd yn ôl y gofyn.

7.1 Bydd y Bwrdd yn ymgymryd â pherthynas pwrpasol gyda'r bobl a'r cymunedau yn yr ardal, gan gynnwys plant a phobl ifanc, siaradwyr Cymraeg a'r rhai sydd â nodweddion a warchodir ym mhob agwedd o'i waith.

7.2 Bydd y Bwrdd yn:

  • Agor cyfarfodydd i'r cyhoedd ar adegau priodol er mwyn iddynt allu gweld a gofyn cwestiynau ynglŷn ag unrhyw eitem sylweddol ar y rhaglen.
  • Gwahodd pobl â diddordeb i roi cyflwyniadau i'r Bwrdd ar unrhyw eitemau sy'n derbyn sylw. Fodd bynnag, bydd y Bwrdd yn ofalus ac yn sicrhau priodoldeb ei brosesau a'u bod yn ddiduedd a bydd y Bwrdd yn ymwybodol o'r risgiau a all godi pe canfyddir bod grŵp penodol yn cael mwy o fynediad at drafodaethau'r bwrdd neu fwy o ddylanwad arnynt.
  • Bydd y Bwrdd yn cymryd camau ychwanegol y tu allan i'r cyfarfodydd er mwyn sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed ac yn cynorthwyo i ffurfio'r asesiad llesiant a'r cynllun llesiant. Disgwylir y bydd hwn yn cynnwys ymarferion a chyfleodd ymgynghori er mwyn i bobl godi a thrafod syniadau drwy drefniadau ymgysylltu ar-lein neu ddulliau eraill.
  • Bydd y Bwrdd yn ystyriol bod y BGC yn destun craffu drwy Bwyllgor Craffu'r Cyngor (Cynghorau) ac mae'r broses hon yn darparu dull arall i'r cyhoedd ymgysylltu.

 

8.1 Bydd y Bwrdd yn destun craffu gan Bwyllgor craffu / sgriwtini dynodedig awdurdodau lleol. Bydd panel craffu ar y cyd yn cael ei ddatblygu i wneud y gwaith yma ar draw Gwynedd ac Ynys Môn.

 

9.1 Er bod yn rhaid i’r Bwrdd adolygu'r Cylch Gorchwyl yn y cyfarfod gorfodol, gall y Bwrdd adolygu a chytuno i ddiwygio ar unrhyw amser cyn belled â bod yr holl aelodau statudol yn cytuno.

 

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ar y Cyd

Egwyddorion ar gyfer Cydweithio

Noda'r Ddeddf y canlynol:

Mae Bwrdd yn cydweithio os bydd yn –

(a) Cydweithio gyda bwrdd arall,
(b) hwyluso gweithgareddau bwrdd arall
(c) Cydlynu ei weithgareddau gyda bwrdd arall
(d) Arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran, neu yn
(e) darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.

Cynigir y dylai'r cydweithio rhwng Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd fod fel a ganlyn:

1. Bydd y Byrddau yn cytuno i gydweithio trwy gyfarfod ar y cyd. Bydd y cyfarfodydd mandadol yn gyfarfodydd arwahan.

2. Bydd y Byrddau yn ethol Cadeirydd sy'n gymwys i Gadeirio’r ddau Fwrdd yn annibynnol ac felly yn gallu Cadeirio'r cyfarfodydd ar y cyd.

3. Bydd Asesiadau o Lesiant Lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol Gwynedd ac ardal awdurdod lleol Ynys Môn yn cael eu cyhoeddi arwahan. Fe fydd yr asesiadau yn dilyn yr un drefn â'i gilydd.

4. Bydd Cynlluniau Llesiant Lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol Gwynedd ac ardal awdurdod Lleol Ynys Môn yn cael eu cyhoeddi arwahan. Bydd y cynlluniau yn dilyn yr un drefn â'i gilydd.

5. Bydd Adroddiadau Cynnydd Blynyddol ar gyfer ardal awdurdod lleol Gwynedd ac ardal awdurdod lleol Ynys Môn yn cael eu cyhoeddi arwahan. Bydd yr adroddiadau yn dilyn yr un drefn â'i gilydd.

6. Bydd y gwaith o gynllunio a pharatoi'r asesiadau, cynlluniau a’r adroddiadau blynyddol yn cael ei arwain gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar y cyd.

7. Bydd yr amcanion a bennwyd yn y cynlluniau yn amcanion sy'n delio ag hybu llesiant y cymunedau o fewn Ynys Môn a Gwynedd, a rhaid i'w cytuno yn unfrydol gan y partneriaid statudol yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd. Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar y cyd yn rhoi pwyslais a blaenoriaeth i faterion sydd yn gyffredin yn y ddwy Sir ac yn ymateb i’r materion yma ar y cyd ar draws y ddwy Sir.

8. Bydd yr asesiadau, cynlluniau a’r adroddiadau cynnydd yn cael eu cymeradwyo gan y Byrddau unigol ond trefnir y cyfarfodydd yma ar yr un dyddiad ac yn dilyn ei gilydd o ran amser. Fe fydd cynrychiolwyr sydd yn eistedd ar un Bwrdd yn unig yn mynychu'r ddau gyfarfod ond fel arsylwyr yn unig yn ystod cyfarfod y Bwrdd nad ydynt yn aelodau ohono.

9. Bydd y cyllid ar gyfer y cymorth rheoli a gweinyddu'r Byrddau yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf.

10. Cytunir ar yr adnodd fydd ei angen ar gyfer gweithredu amcanion cytunedig gan yr holl bartneriaid unwaith y bydd yr amcanion wedi cael eu gosod.

Gwelir Asesiad o Lesiant drafft Gwynedd ac Ynys Môn yma:-
www.llesiantgwyneddamon.org

 

Asesiad-Llesiant-Gwynedd-2022

Copïau o agendau a chofnodion cyfarfodydd blaenorol y Bwrdd.

Papurau Bwrdd