Gwborau Gwirfoddoli Gwynedd
Mae Gwobrau Gwirfoddolwyr Gwynedd yn dychwelyd yn 2026 i ddathlu’r unigolion a’r grwpiau anhygoel sy’n rhoi o’u hamser, eu hegni a’u caredigrwydd i gefnogi cymunedau ledled Gwynedd. Wedi’u trefnu gan Mantell Gwynedd, mae’r gwobrau’n cydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud bob dydd o gefnogi pobl ifanc, prosiectau cymunedol sydd yn mynd i’r afael ag unigrwydd, a llawer mwy!
Fel rhan o ddathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr ar draws Prydain rhwng y 1as a'r 7fed o Fehefin, mae'r gwobrau yn gyfle i ddweud diolch i’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y sir. Rydym yn gwahodd cymunedau, sefydliadau a thrigolion i enwebu gwirfoddolwyr ysbrydoledig y mae eu hymroddiad yn haeddu cael ei gydnabod a’i ddathlu. Gyda’n gilydd, gadewch inni dynnu sylw at y bobl sy’n helpu Gwynedd i ffynnu.
Bydd Seremoni Gwobrau Gwirfoddolwyr Gwynedd 2026 yn cael ei chynnal yn Portmeirion ddydd Mawrth 2 Mehefin am 12pm.
I enwebu gwirfoddolwr neu grŵp, dilynwch y ddolen isod.
Ffurfen Enwebu Gwobrau Gwirfoddoli Gwynedd 2026
Cysylltwch gyda ni am unrhyw wybodaeth pellach


