Adnoddau ychwanegol

Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol - Mae’r Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol yn edrych ar y sustemau a’r prosesau sydd gennych mewn lle ar gyfer uchafu eich gwerth cymdeithasol. Gellir cyflwyno Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol i fudiad neu ar gyfer raglen arbennig neu unrhyw brosiect mae’r mudiad yn ei redeg.

Mae tri lefel i’r Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol –

Lefel 1 – Ymrwymo
Lefel 2 – Gweithredu
Lefel 3 - Macsimeiddio

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) - yn ddigwyddiadau trawmatig sydd yn effeithio ar blant wrth iddynt dyfu i fyny, fel dioddef camdriniaeth fel plentyn neu fyw ar aelwyd wedi ei heffeithio gan drais domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl.


Ffilm byr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei hanimeiddio:
https://www.aces.me.uk/cymraeg/


Adnoddau ac Adroddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru:
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/88522

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Act 2015 – Mae gwybodaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar https://futuregenerations.wales a hefyd mae WCVA wedi paratoi nifer o daflenni ffeithiau defnyddiol https://www.wcva.org.uk

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 –Mae gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar http://gov.wales
Hefyd, mae Canolfan Cydweithredol Cymru gyda dogfen ddefnyddiol ar sut gall busnesau cymdeithasol weithio gyda’r Ddeddf https://wales.coop

Social Value UK – Sefydliad aelodaeth sy’n arwain ym Mhrydain ar werth cymdeithasol a Chanfod Gwerth Buddsoddiad Cymdeithasol. Mae hyfforddwyr Mantell Gwynedd yn aelodau http://www.socialvalueuk.org

Adnodd Hunan asesiad - Mae’r adnodd Hunan Asesiad Gwerth Cymdeithasol ar gael i helpu mudiadau i weld pa mor effeithiol maent yn mesur ac adrodd ar werth cymdeithasol, drwy edrych ar Egwyddorion Gwerth Cymdeithasol http://www.socialvalueuk.org

Social Value International – Rhwydwaith Rhyngwladol gyda’r pwyslais ar effaith cymdeithasol a gwerth chymdeithasol. Mae aelodau’n rhannu pwrpas tebyg sef newid y ffordd mae cymdeithas yn cyfrifo gwerth.

https://socialvalueint.org/about/

Global Value Exchange – nifer o adnoddau i’ch helpu i fesur a rheoli gwerth cymdeithasol. Mae’r wefan yn cynnwys data ar ddeilliannau a gwerthoedd http://www.globalvaluexchange.org

Social Audit Network – Sefydliad blaenllaw ar gyfer mudiadau yn yr economi cymdeithasol a’r sector gwirfoddol ym Mhrydain, yn arbenigo mewn cyfrifeg ac archwiliad cymdeithasol http://www.socialauditnetwork.org.uk

New Economics Foundation – Arbenigwyr yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gyda nifer o adnoddau defnyddiol http://neweconomics.org

Social Enterprise UK – Corff cenedlaethol ar gyfer mentrau cymdeithasol ym Mhrydain, gyda nifer o gyhoeddiadau defnyddiol http://www.socialenterprise.org.uk

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru - Yn cefnogi’r trydydd sector yng Nghymru http://www.wcva.org.uk/

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy yn gynllun penodol ar gyfer sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb. Mae’r nodau yn ymateb i her fyd-eang gan gynnwys tlodi, anghydraddoldeb, hinsawdd, diraddiad amgylcheddol, ffyniant, heddwch a chyfiawnder.
Mae’r nodau’n cyd-gysylltu ac i sicrhau nad oes neb yn cael eu hepgor, mae’n bwysig ein bod ni’n gwireddu pob nod a tharged erbyn 2030.

https://www.un.org/sustainabledevelopment/sustainable-development-goals/