Cydnabod Gwirfoddolwyr

A OEDDECH YN GWYBOD Y GALLWCH GAEL CYDNABYDDIAETH AM EICH GWAITH GWIRFODDOLI?

Oeddech chi’n gwybod y gallwch gofnodi oriau gwirfoddoli ar eich tudalen proffil wedi i chi ymuno gyda chyfle trwy wefan Gwirfoddoli Cymru? Byddwch yn derbyn bathodynau digidol am 50, 100, 200, 500 a 1,000 o oriau fel cydanbyddiaeth o’ch ymdrechion.
Rydym hefyd yn cynnig cynllun tystysgrif oriau p’un ai os ydych wedi cofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru neu ddim .

Cliciwch ar y tab isod am fwy o fanylion am Gynllun Gwirfoddoli Gwynedd.Cliciwch ar y tab isod am fwy o fanylion a sut i gofrestru ar Gynllun Gwirfoddoli Gwynedd.

 

Gwynedd Volunteer Scheme logoBeth yw Cynllun Gwirfoddoli Gwynedd?

Nod Cynllun Gwirfoddoli Gwynedd yw cydnabod yr oriau ac ymdrechion mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu t uag at ein cymunedau.

Pwy sy'n callu bod yn rhan?

Mae' r cynllun yn agored i bawb o bob oed ac sy'n gwirfoddoli yng Ngwynedd efo mudiad 'di-elw'.

Pa dystyscrifau sydd ar cael?

Ar ol cofrestru, mae angen cofnodi'r oriau gwirfoddoli ac yna byddwch yn gymwys i dderbyn tystysgrifau 50, 100, 200 a 500 a 1,000 o oriau cwirfoddoli.

Sut mae mynd ati?

Cwblhewch y ffurflen gofrestru a'i ddanfon yn ol atom. Os ydych eisoes yn cwirfoddoli, pllwch ol-ddyddio e ich oriau hyd at 3 mis a hyd at 50 awr - cofiwch gynnwys yr oriau hyn ar eich taflen gofnodi gwirfoddoli. Os nad ydych wedi dod o hyd i leoliad gwirfoddoli addas eto, cysylltwch ani am gymorth- gallwn e ich helpu i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli. Yna, yr oil sydd angen ei wneud yw cofnodi eich oriau a chael y mudiad i lofnodi'r daflen oriau. Unwaith y byddwch wedi cwblhau 50, 100, 200, 500 neu 1,000 o oriau, dychwelwch y ffurflen atom drwy e-bost neu drwy'r post.

Sut byddaf yn derbyn fy nhystyscrif?

Bydd eich tystysgrif yn cael ei argraffu ar ol i ni dderbyn eich taflen oriau yn cadarnhau eich bod wedi cwblhau naill ai 50, 100, 200, 500 nei 1,000 o oriau. Yna gallwn gyflwyno eich tystysgrif i chi yn ein swyddfa, yn un o' n digwyddiadau cydnabyddiaeth neu wrth gwrs gallwn anfon y dystysgrif atoch trwy'r post.

Cliciwch yma ar gyfer y pecyn gwybodaeth