SOCIAL VALUE CERTIFICATE

 

Mae Social Value UK yn cynnig gwasanaeth aswiriant ar ran Social Value International. Rhwydwaith byd eang yw Social Value International sydd yn rhoi ffocws ar effaith a gwerth cymdeithasol. Maent yn gweithio gydag aelodau er mwyn gwella mesur, rheoli a macsimeiddio gwerth cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd yn cael eu heffeithio gan weithgareddau’r mudiad.

Mantell Gwynedd yn ennill Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol Lefel 2

Yn ddiweddar, fe gafodd Mantell Gwynedd Dystysgrif Lefel 2 -Gweithredu, gan Social Value International (SVI) - y corff sy'n gyfrifol am gynnal safonau gwerth cymdeithasol.
Mae gwerth cymdeithasol yn fodd i ni ddeall y newid ym mywydau pobl yn sgil ein gweithgareddau trwy ofyn i bobl beth sydd wedi newid yn eu bywydau. Un o brif fanteision cyrraedd Lefel 2 Gweithredu yw ei fod yn ein galluogi i reoli, cynllunio ac addasu ein gweithgareddau a'n gwasanaethau yn fwy effeithiol ac i'w gwella er lles y defnyddwyr a'n partneriaid.

Dywedodd Trystan Pritchard, Cadeirydd Mantell......

"Yn y pendraw, mae gweithredu Gwerth Cymdeithasol ar Lefel 2 yn fodd i Mantell ddefnyddio mewnbwn pobl go iawn i ddylanwadu a gwella'n gweithgareddau er budd defnyddwyr a phartneriaid."

Mantell Gwynedd yw'r unig Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Sirol sydd wedi ennill Lefel 2; ac yn un o ddim ond pedwar sefydliad drwy Brydain sydd yn dal Lefel 2 ar hyn o bryd.