Prosiect Help Llaw i Wirfoddoli
Prosiect Help Llaw i Wirfoddoli
Croeso i'r Prosiect Help Llaw i Wirfoddoli! Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) hyd at fis Mawrth 2025. Mae’r fenter sydd yn cael ei arwain gan Ganolfan Gwirfoddoli Gwynedd, yn ymroddedig i rymuso unigolion a chryfhau cymunedau drwy gysylltu gwirfoddolwyr angerddol â chyfleoedd i wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Prif amcan y cynllun yw darparu cymorth un-i-un i unigolion sydd ag anghenion cymorth ychwanegol, ac a allai elwa o gymorth i wirfoddoli. Mae'r gefnogaeth yn estyniad o'n gwasanaeth broceriaeth presennol ble mae ein swyddog ymroddedig yn arwain unigolion trwy gydol y broses wirfoddoli, gan eu paru â lleoliadau addas, cefnogaeth i lenwi ffurflenni, ymweliadau safle, ac yn bennaf oll i roi help llaw trwy fynychu'r achlysuron cychwynnol gyda gwirfoddolwyr.
Amcanion y Prosiect
Nod y Prosiect Help Llaw i Wirfoddoli yw:
- Ysbrydoli unigolion sydd ag anghenion cymorth ychwanegol i wirfoddoli drwy arddangos yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael.
- Cefnogi sefydliadau lleol drwy eu paru â gwirfoddolwyr ymroddedig.
- Gwella datblygiad personol a phroffesiynol gwirfoddolwyr trwy arweiniad, hyfforddiant a mentora.
Ein gweledigaeth yw creu diwylliant gwirfoddoli bywiog sy’n cyfoethogi bywydau ac yn adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn.
Astudiaethau achos
Darganfyddwch straeon ysbrydoledig am unigolion a sefydliadau sydd wedi elwa gan y prosiect Help Llaw i Wirfoddoli.
Cymerwch Ran
P'un a ydych yn unigolyn sy'n awyddus i wirfoddoli neu'n asiantaeth sy'n dymuno cyfeirio unigolion at wirfoddolwyr, mae'r Prosiect Help Llaw i Wirfoddoli yma i'ch cynorthwyo.
Sut i gymryd rhan
Cysylltwch â’r prosiect am ragor o wybodaeth neu i wneud atgyfeiriad:
Jordan.thomas@mantellgwynedd.com
01286 672 626
Neu cliciwch yma i gwblhau'r ffurflen atgyfeirio