Pam mesur gwaith cymdeithasol?

Rydym yn egluro gwerth cymdeithasol yn ein tudalen ‘Beth ydy Gwerth Cymdeithasol?’ ac rydym yn ymwybodol bod y trydydd sector yn creu nifer anhygoel o werth cymdeithasol, ond nid y gorau am ddathlu hynny a chanmol y gwaith da sydd yn digwydd. Credwn y dylai hynny newid, ac y dylai mudiadau sydd yn creu newidiadau pwysig ym mywydau pobl ac yn creu arbedion i fudiadau ddweud stori eu gwaith yn effeithiol.
Nid gwneud yr hun sydd yn ddisgwyliedig ohonom yn allanol yw mesur gwerth cymdeithasol. Drwy ei ddefnyddio’n effeithiol gall roi cyfle i ni ddysgu am sut gallwn wneud pethau’n well. Dyma sydd yn cael mwy o effaith positif ym mywydau'r bobl rydym yn gofalu amdanynt.

Mae’r darlun isod yn cyflwyno ychydig o’r manteision posib drwy fesur gwerth cymdeithasol.

 

pam mesur gwerth cymdeithasol

Cliciwch yma i weld y llun uchod yn fwy

Gwerth cymdeithasol yw’r iaith gall ein helpu i gyfathrebu effaith ein gwaith ar unigolion, mudiadau a chymdeithas mewn ffordd sy’n ddealladwy i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn fewnol ac allanol i’r mudiad.