Rhwydwaith Llesiant

Nod: Gweithio er Lles ein Cymunedau!

Prif Amcanion Swydd Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

• Sicrhau llais i'r trydydd sector mewn cyfarfodydd a digwyddiadau Lleol a Rhanbarthol
• Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o werth ychwanegol y trydydd sector ym maes iechyd, gofal a lles ar bob lefel.
• Bod yn bwynt cyswllt rhwng y sector statudol â mudiadau'r trydydd sector.
• Datblygu cynlluniau penodol ar y cyd i ddiwallu anghenion lleol.
• Hwyluso cydweithio rhwng mudiadau a chefnogi Rhwydweithiau'r Trydydd Sector a grwpiau lleol eraill.
• Ymateb i ymholiadau a chynnig cefnogaeth briodol.
• Rhannu gwybodaeth yn rheolaidd yn bennaf ar e-bost ac ar y Wefan.
• Hwyluso cynrychiolaeth briodol o'r trydydd sector ar grwpiau a fforymau lleol a rhanbarthol.
• Sicrhau mewnbwn trydydd sector i dimau integredig lleol/clwstwr yn ardaloedd Meirionnydd, Arfon a Dwyfor.
• Cydweithio a rhannu ymarfer da gyda chydweithwyr sy'n ymwneud yn yr un maes ar draws y Gogledd.
• Ymwneud â digwyddiadau ymgynghori ac ymateb pan yn berthnasol.
• Cyfrannu at waith ymchwil yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Rhwydwaith Llesiant y Trydydd Sector:

NOD - Rhoi llais cryf i fudiadau’r trydydd sector a grwpiau gwirfoddol a chymunedol

Sefydlwyd y Rhwydwaith yma i sicrhau llais i'r sector wirfoddol ym maes iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol. Cynhelir y digwyddiadau yma tua thair gwaith y flwyddyn a'r prif amcan yw rhoi cyfle i fudiadau a grwpiau dderbyn gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf. Mae’r Rhwydwaith hefyd yn gyfle gwych i fudiadau a grwpiau Cymunedol i rwydweithio a rhannu syniadau gyda’i gilydd.

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am eitemau i'w cynnwys yn y cyfarfodydd yma mae croeso i chi gysylltu â Sioned ar 01286 672626 neu sioned.roberts@mantellgwynedd.com.