Gwirfoddolwyr technoleg

Mudiad: Ability Net

Disgrifiad:

Mae’r elusen TG arobryn AbilityNet yn chwilio am wirfoddolwyr Tech i helpu pobl i gael y gorau o dechnoleg ledled Cymru.

Oes gennych chi angerdd i helpu eraill, sgiliau TG a chyfrifiadurol da a Gwybodaeth am systemau gweithredu a meddalwedd safonol?

A oes gennych y gallu i gyfathrebu'n dda â phobl, amynedd ac empathi ynghyd â'ch trafnidiaeth eich hun neu gysylltiadau trafnidiaeth da. Rydym yn talu costau teithio o 45c y filltir a holl gostau trafnidiaeth gyhoeddus

Ledled y DU mae ein 300+ o wirfoddolwyr yn cefnogi pobl hŷn a/neu anabl gartref i gynnig cymorth un-i-un gyda’u technoleg, boed hynny’n gyfrifiadur, gliniadur, ffôn clyfar neu lechen.

Mae'r gwaith yn hyblyg a gallwch drefnu gwirfoddoli o gwmpas eich ymrwymiadau cartref a gwaith. Nid oes isafswm oriau'r mis, bydd gennych fynediad i hyfforddiant technoleg ac anabledd o ansawdd uchel ynghyd â rhwydwaith gyda thîm cenedlaethol o Gydlynwyr a gwirfoddolwyr TG eraill .

Ydych chi'n barod i fod yn rhan o elusen genedlaethol uchel ei pharch sy'n cael ei chefnogi gan IBM a Microsoft?

Ymunwch â ni a dod yn rhan o newid bywydau pobl anabl a hŷn yn eich ardal leol.

Lleoliad: Gwynedd

Oed: 18+

Manylion pellach:

Math o gyfle:

Technoleg gwybodaeth

Dyddiau gwirfoddoli:

Hyblyg

Holwch am y cyfle hwn

Pob Cyfle