Dyfarnu Gwerth Cymdeithasol Lefel 2 – Gweithredu i Mantell Gwynedd
Yn ddiweddar, mae Mantell Gwynedd wedi cael dyrchafiad yn ei gymhwysedd gwerth cymdeithasol. Fe ddyfarnwyd iddo Dystysgrif Lefel 2 – Gweithredu, gan Social Value International (SVI) – y corff rhyngwladol sy’n gyfrifol am gynnal safonau gwerth cymdeithasol ar draws y byd.
Mae Mantell wedi dal Tystysgrif Lefel 1 ers 2019 ac yn ystod y cyfnod o 2020 drwy gyfnod cyfyngiadau Covid, bu’r sefydliad yn adeiladu ar ei fframweithiau a’i gynlluniau er mwyn gosod dulliau gweithredu mwy trylwyr yn eu lle ar draws holl weithgareddau’r cwmni. Yn dilyn cyflwyno’r cais am Lefel 2 ym mis Hydref 2023, cafwyd asesiad manwl gan SVI, ac fe ddyfarnwyd Tystysgrif Lefel 2 i Mantell ar 11 Rhagfyr 2023.
Mae gweithgareddau Mantell yn amrywiol a niferus gan gynnwys datblygu a chefnogi gwirfoddoli, cynrychioli’r trydydd sector a chydweithio gyda phartneriaid, cefnogi mudiadau gyda’u trefniadau llywodraethu, ariannol ac ymgysylltu, cyfeirio unigolion at wasanaethau perthnasol, gwasanaeth presgripsiwn cymdeithasol yn ardal Arfon a rhoi arweiniad i fudiadau ar sut i fesur eu gwerth cymdeithasol…… a llawer mwy!
Mae gwerth cymdeithasol yn fodd i ni ddeall y newid ym mywydau pobl yn sgil ein gweithgareddau. Trwy ofyn i bobl beth sydd wedi newid yn eu bywydau, gallwn ddechrau deall canlyniadau ein gweithgareddau. Os ydy'r newidiadau yma yn ganlyniad i’n gweithgareddau, yna rydym yn creu gwerth cymdeithasol, a thrwy fesur y rhain gallwn ddeall faint o effaith yr ydym wedi’i gael ar fywydau bobl, a sut y gellir cynyddu’r effaith hynny er gwell.
Un o brif fanteision cyrraedd Lefel 2 Gweithredu yw ei fod yn ein galluogi i reoli, cynllunio ac addasu ein gweithgareddau a’n gwasanaethau yn fwy effeithiol ac i’w gwella er lles y defnyddwyr a’n partneriaid. Mae’r holl broses yn digwydd yn barhaus gan ddilyn wyth egwyddor rhyngwladol SVI. Mae’r strwythur newydd sydd wedi’i fabwysiadu a’i arfarnu yn caniatáu i ni gyflawni hyn ac yn cynnwys y prif elfennau canlynol: Gweithgor, Polisi Gwerth Cymdeithasol, Cynllun Gweithredu, Cynllun Ymgysylltu, Arolygon, Theorïau Newid a Theclynau Mesur (Toolkits). Ein nod yn ystod y blynyddoedd nesaf yw gwreiddio’r ymarfer yma ar draws holl weithgareddau’r sefydliad.
Un o’r elfennau rheoli allweddol yw’r Cynllun Ymgysylltu sy’n cynnwys manylion am brif weithgareddau’r mudiad ac amserlenni ar gyfer derbyn gwybodaeth a mewnbwn gan ddefnyddwyr, mudiadau a phartneriaid ynglŷn ag effaith ein gweithgareddau arnynt. Bydd y Cynllun yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd a’i ystyried gan y Gweithgor Gwerth Cymdeithasol bob tri mis. Yn y modd yma, mae gwerth cymdeithasol yn greiddiol ac yn cyd-rhedeg gyda chynlluniau strategol eraill y Cwmni fel adroddiadau ariannol, llywodraethiant, staffio ac adnoddau.
Mantell Gwynedd yw’r unig Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Sirol sydd wedi ennill Lefel 2, a’r unig sefydliad yng Nghymru sydd wedi cyrraedd Lefel 2.
Dywedodd Trystan Pritchard, Cadeirydd Mantell……
Yn y pendraw, mae gweithredu Gwerth Cymdeithasol ar Lefel 2 yn fodd i Mantell ddefnyddio mewnbwn pobl go iawn i ddylanwadu a gwella’n gweithgareddau er budd defnyddwyr a phartneriaid.