Ffynhonellau Ariannu

A ydych chi yn chwilio am gyllid/grantiau i'ch mudiad? Am y wybodaeth mwyaf cyfredol cliciwch ar Gwybodaeth Diweddaraf ar y dde.

Gwybodaeth am Gyllid

Mae gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru borth cyllid y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i arian ar gyfer eich prosiect nesaf. Mae cofrestru yn cymryd llai na munud ac wedyn bydd gennych chi fynediad ar unwaith i wybodaeth am filoedd o gyfleoedd ariannu lleol, rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd – i gyd yn rhad ac am ddim!

Gallwn hefyd eich helpu i wneud cais am arian a sicrhau bod eich mudiad a’i bolisïau yn ‘addas ar gyfer ariannu’. Cysylltwch â ymholiadau@mantellgwynedd.com am fwy o wybodaeth.

Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth drwy y ffurflenni gwybodaeth.