Diogelu
Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn chwarae rhan flaenllaw o ran darparu gwasanaethau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Mae'n bwysig fod gwasanaethau a gweithgareddau unrhyw wasanaeth neu fudiad yn cael eu darparu yn y modd mwyaf diogel. I sicrhau hynny mae gofyn bod gweithdrefnau perthnasol yn eu lle ym mhob mudiad.
Yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig, mae unrhyw un dan 18 oed yn cael ei ystyried fel plentyn. Mae sicrhau fod gan eich mudiad weithdrefnau mewn lle yn ffordd i’ch cynorthwyo i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed a rhag cael eu cam-drin. Ar ben hynny, bydd eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn gwybod beth i’w wneud os ydyn nhw’n poeni am blentyn neu berson ifanc.
Mae’r NSPCC yn defnyddio’r gair “diogelu” i olygu’r broses o ddiogelu person rhag niwed boed yn ddamweiniau, camdriniaeth fwriadol, esgeulustod (bwriadol ai peidio) neu ffactorau megis bwlio, agweddau rhagfarnllyd neu fethiant i alluogi person i gyfranogi mewn gweithgareddau sy’n agored i’r rhan fwyaf o’i gymheiriaid.
Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Amcanion Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yw:
Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol i herio asiantaethau perthnasol yn yr ardal fel bod:
- Mesurau effeithiol ar waith i AMDDIFFYN plant
- Cynllunio cydweithredol effeithiol rhwng asiantaethau a darparu gwasanaethau diogelu a rhannu gwybodaeth
- Rhagweld a Nodi lle gallai unigolion gael eu heffeithio a gweithio gyda darparwyr gwasanaeth i ddatblygu adnabyddiaeth gynharach a gwasanaethau ataliol
- Hyrwyddo gwasanaethau cymorth aml-asiantaeth effeithiol
- Hyrwyddo dulliau rhyngasiantaeth i weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lle y gall fod poblogaethau mewn perygl o niwed
- Defnyddio hyfforddiant rhyngasiantaeth a lledaenu dulliau dysgu ac ymchwil er mwyn helpu i greu gweithlu aml-asiantaeth mwy hyderus a gwybodus
Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru
Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw:
- amddiffyn oedolion yn ei ardal sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio): ac sy’n profi, neu mewn perygl o, gamdriniaeth neu esgeulustod,
- atal yr oedolion hynny o fewn ei ardal a rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu ddioddef esgeulustod
Cliciwch yma ar gyfer gwefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Yma, cewch lawrlwytho copiau o dempledi polisïau diogelu plant a phobl ifanc.
Nodwch mai templedi yn unig sydd ar gael. Mae’n bwysig addasu’r templedi isod ar gyfer amcanion a dibenion eich mudiad neu wasanaeth.
Polisi Diogelu Enghreifftiol - cliciwch yma
Sample Child Protection Policy Statement (Saesneg yn Unig) - cliciwch yma