Sut i fesur gwerth cymdeithasol

Mae amryw o ddulliau i fesur gwerth cymdeithasol – ac un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol yw fframwaith Canfod Gwerth Buddsoddiad Cymdeithasol (CGBC). Mae’r dull yma yn ein caniatáu i weithio gyda budd-ddeiliaid i ddeall beth sydd wedi newid yn eu bywydau a rhoi gwerth ar y newidiadau yma.

Wedi seilio ar 7 egwyddor, mae CGBC yn ein galluogi i gymharu’r manteision yr ydym yn ei greu i’r gôst o’i gynhyrchu. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad cynhyrchu rhif yn unig yr ydym – ond yn creu stori o newid gyda thystiolaeth mesuriadawy ac ansoddol.

Beth ydy CGBC?

Dull neu gysyniad newydd ydy CGBC. Mae wedi ei greu drwy edrych ar gyfuniad o ddulliau gwerthuso sydd wedi ei sefydlu yn gadarn ac ar economeg iechyd ac amgylcheddol. Mae’n ymateb i bum prif gwestiwn:

  • Pwy sydd yn newid?
  • Sut maent yn newid?
  • Sut ydych yn gwybod?
  • Faint o’r newid sydd oherwydd eich cymorth chi?
  • Pa mor bwysig yw’r newidiadau?


Cynnwys budd-ddeiliaid sydd yn tanseilio y broses o CGBC. Drwy ofyn i bobl beth sydd wedi newid (neu beth fydd yn newid) yn eu bywydau, gallwn ddeall y canlyniadau positif a negatif o’n gwaith.

Y prif wahaniaeth o ddefnyddio CGBC i gymharu a dulliau eraill ydy ei fod yn ein caniatáu i roi gwerth ariannol ar ganlyniadau ein budd-ddeiliaid. Y gwerth ariannol yma sydd yn ein galluogi i gyfathrebu mewn iaith cyffredin drwy gymharu y manteision sydd wedi ei greu i’r gôst o’i gynhyrchu. Golygir felly y gallwn ddangos faint o werth sydd yn cael ei greu am bob £1 wedi ei fuddsoddi- er enghraifft am bob £1 a fuddsoddwyd mewn prosiect, y gwerth cymdeithasol sydd yn cael ei greu ydy £3.50.

Er bod y rhifau yn bwysig, nid rhoi pris ar bob dim y mae CGBC, ond deall gwerth yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae canlyniadau megis gwell hyder mewn rhieni, neu gwella iechyd meddwl yn newidiadau gwerthfawr – fodd bynnag heb eu cymharu i’r gôst o’i cynhyrchu, rydym yn llai abl i gyfathrebu eu pwysigrwydd, ac rydym yn cyfyngu ein gallu i greu mwy o newidiadau positif ym mywydau pobl.

Gall Canfod Gwerth Buddsoddiad Cymdeithasol eich helpu i wneud ceisiadau tendro neu grantiau, denu bobl da i weithio gyda chi, neu gwella effaith cymdeithasol eich gwaith.