ond mantellgwynedd.com
 
Hafan
 

Gwirfoddoli


Ar gael i chi


Ariannu


Hyfforddiant a Digwyddiadau


Partneriaethau


Wal Fideo


 

 

www.flickr.com

Bookmark and Share

14 - 25 oed


Os ydych o 14-25 oed, mae gwahanol gynlluniau i gydnabod ac i annog gwirfoddolwyr ifanc.

Cynllun sydd yn cael ei redeg ledled y D.U. yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm gyda'r nod o hyrwyddo a chydnabod gwirfoddoli gan bobl ifanc rhwng 14 - 25 oed
Dyma 6 rheswm dros wirfoddoli :

  • ennill profiadau newydd
  • gwneud ffrindiau newydd
  • datblygu sgiliau
  • gwella eich rhagolygon am waith
  • cydnabyddiaeth gan gyflogwyr, colegau a’r gymuned leol.
  • mwynhau eich hun!

Ac os ydych yn gwirfoddoli, mae’n werth cofrestru fel ‘Gwirfoddolwr y Mileniwm’
Beth mae’n ei olygu i chi?

  • Cewch gofrestru ar y cynllun yn lleol gyda Chanolfan Gwirfoddoli Gwynedd (mae hyn yn golygu cwblhau dwy ffurflen, a chytuno i gadw cofnod o’r oriau pan fyddwch yn gwirfoddoli).
  • Eich nod fyddai anelu i wirfoddoli am 200 awr mewn blwyddyn. Cewch gydnabyddiaeth am wirfoddoli am leiafswm o 50 awr mewn blwyddyn.
  • Gallwch wneud unrhyw beth a fydd yn helpu eich cymuned leol.
  • Cewch wirfoddoli gyda mwy nac un mudiad e.e. darllen tapiau i’r deillion, cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig, helpu gyda chynlluniau darllen ........
  • Pan fyddwch wedi cwblhau 50 awr a 100 awr o wirfoddoli, cewch Dystysgrifau.
  • Ar ôl cwblhau 200 awr o wirfoddoli mewn blwyddyn, cewch Wobr Rhagoriaeth gan Brif Weinidog Cymru fel prawf o’ch gwaith caled!

Chi Piau’r Dewis - Ni fydd yn costio dim i chi. Telir holl dreuliau gwirfoddolwyr.

Felly - Os hoffech chi fod yn ‘Wirfoddolwr y Mileniwm’, cysylltwch â ni (ffurflen cofrestru diddordeb). Gwnawn eich helpu i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli fydd yn cyfateb orau â’ch diddordebau chi a’r amser sydd gennych i’w gynnig.

Chwiliwch yma am gyfle sydd yn ennyn eich diddordeb – www.gwirfoddolicymru.net

Cliciwch ar safle we www.gwirvol.org i ddarllen am brofiadau pobl ifanc drwy'r D.U.

GWIRVOL


Mae GwirVol yn bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, ac mae’n cael ei arwain gan syniadau pobl ifanc yng Nghymru. Cafodd y Bartneriaeth ei ffurfio i weithredu ar argymhellion Comisiwn Russell. Mae’r argymhellion hyn wedi’u cynllunio i greu fframwaith i arwain at newid sylfaenol yn nifer ac amrywiaeth y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli ac i greu mwy o gyfleoedd a chyfleoedd gwell iddynt i wirfoddoli.

Nod GwirVol fel cynllun yw:
• Cynyddu nifer ac amrywiaeth y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli yng Nghymru.
• Cynyddu nifer a hygyrchedd cyfleoedd gwirfoddoli o safon i bobl ifanc yng Nghymru.

GWIRFORCE

 

 

.

  Swyddfa Gofrestredig: CAERNARFON
23-25 Y Bont Bridd
Caernarfon
Gwynedd,
LL55 1AB
Ffôn: 01286 672626
Facs: 01286 678430
e-bost:
ymholiadau@mantellgwynedd.com
Swyddfa Gofrestredig: DOLGELLAU
Yr Hen Orsaf Heddlu
Y Lawnt
Dolgellau
LL40 1SB

Ffôn: 01341 422575
Facs: 01341 422147
e-bost:
dolgellau@mantellgwynedd.com
 


Gwefan gan Delwedd