Gwirfoddoli
A ydych yn chwilio am rywbeth cyffrous a diddorol i’w wneud?
Mae yna ddewis eang iawn o gyfleoedd gwirfoddoli ar eich cyfer, er enghraifft:
- Gwarchod yr amgylchedd
- Cwnsela
- Gwaith swyddfa
- Gyrru
- Codi arian
- a llawer, llawer mwy...
Beth bynnag yw eich sgiliau neu ddiddordebau – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Sut gallwn eich helpu?
Mae Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd fel “siop cyfleoedd”.
- Galwch heibio, a gallwn ddweud wrthych beth sydd ar gael yn lleol a’ch rhoi mewn cysylltiad â mudiadau. Cewch gyngor a thrafod beth yr hoffech ei wneud. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyfle sydd yn addas i chi.
- Cysylltwch â ni drwy e-bost –(Ffurflen cofrestru diddordeb)
- Codwch y ffôn am sgwrs – 01286 672626 / 01341 422575
- Cliciwch YMA am y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf yng Ngwynedd.
- Cliciwch ar www.gwirfoddolicymru.net – sef gwefan o gyfleoedd gwirfoddoli drwy Gymru.
Manylion “Grant dan arweiniad pobl ifanc”
· Flier Grantiau dan arweiniad pobl ifanc 2013-14 - GwirVol - cliciwch yma
· Ffurflen gais Grantiau GwirVol 2013-14 - cliciwch yma
· Canllawiau i fudiadau i gyd fynd gyda’r pecyn cais 2013-14 - cliciwch yma
· Rhestr wirio GwirVol 2013-14 - cliciwch yma
A ydych rhwng 14 a 25 oed?
Y mae cynllun arbennig i chi gael ymuno ag ef – Gwirfoddolwr y Mileniwm
|