PEG (Partneriaeth Economaidd Gwynedd)
Gwefan: cliciwch yma
Mae Partneriaeth Economaidd Gwynedd a’i Grwp Llywio yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth lleol i Wynedd fydd yn cynnwys goruhwylio ei weithrediad drwy hyrwyddo cydblethiad a chydweithrediad economaidd er mwyn hybu a gweithredu cynlluniau datblygu economaidd newydd o fewn y sir.
Mae rôl a chyfrifoldebau aelodau Grŵp Llywio Partneriaeth Economaidd Gwynedd yn cynnwys:
- Datblygu strategaeth datblygu lleol i’r ardal
- Datblygu strwythurau, prosesau a threfniadau i weithredu strategaeth datblygu lleol yr ardal
- Monitro datblygiad a gweithrediad y strategaeth datblygu lleol i’r ardal
- Cyfrannu tuag at dargedu’r adnoddau sydd ar gael ac ymateb i anghenion ac adnabod cyfleoedd fydd yn datblygu’r economi ymhellach
- Darparu sylwadau ar brosiectau sydd yn chwilio am arian gan ffynhonellau rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd a dosbarthiad gweithgareddau rhanbarthol a chenedlaethol
- Monitro gweithgareddau sefydliadau sydd wedi eu hapwyntio i ddosbarthu strategaeth datblygu economaidd, a glynu at ofynion ariannol rheolaethol
- Sichrau bod prosiectau yn gadarn, werth am arian ac wedi eu datblygu’n dda gan ymateb i anghenion ac yn cael effaith bositif ar yr economi yn cael eu dwyn ymlaen a’u dewis am i gael eu gwerthuso a’u hariannu
- Monitro gweithredu a chanlyniadau prosiectau datblygu economaidd sy’n cael eu dosbarthu yn lleol
- Hwyluso cydblethu a chydweithredu gweithgareddau datblygu economaidd yng Ngwynedd
- Hyrwyddo gweithgareddau a rhaglenni datblygu economaidd yng Ngwynedd
Mae rhai cynlluniau eisioes wedi eu darparu e.e.
- Cynllun Datblygu Gwledig Cymru
- Rhaglen Gweithredu dros Gymunedau Gwledig
- Rhaglen Amcan 1 Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (2000 - 2006)
- Rhaglenni Cydgyfeirio a Cydweithrediad Tiriogaethol (2007 – 2013)
| Cyswllt: |
PEG
|
| Cyfeiriad: |
Adran Economi a Chymuned
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
|
| Rhif ffôn: |
01286 679343
|
| E-bost: |
peg@gwynedd.gov.uk |
Llwyddo'n Lleol

|