Galluogi GwyneddGRANT GALLUOGI GWYNEDD - CYFALAF Mae Mantell Gwynedd dan nawdd Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn gweinyddu Cronfa Galluogi Gwynedd gwerth £50,000.00 yn flynyddol. Mae'r gronfa'n agored i gefnogi'r trydydd sector yng Ngwynedd. Mae'r gronfa'n anelu i ddatblygu prosiectau a syniadau newydd, codi cynhwysedd a gwella ac adnewyddu cyfleusterau ac adeiladau cymunedol gan sicrhau mynediad i bawb a thrwy hynny adfywio cymunedau. Faint o grant sydd ar gael? Gwobrwyir grantiau rhwng £500 hyd at £5,000 Mae ceisiadau am hyd at £1,000 yn cael eu hasesu gan Swyddog Grantiau Mantell Gwynedd ac ni fydd rhaid disgwyl am ddyfarniad y panel grantiau. Am fwy o wybodaeth, neu i drafod eich syniad neu am becyn cais cysylltwch â Delyth Vaughan ar 01286 672 626 neu delyth@mantellgwynedd.com |








