Busnes yn Cefnogi Cymunedau
Mae prosiect Busnes yn Cefnogi Cymunedau wedi cyrraedd!
Mae'r prosiect hwn yn gyfle newydd a chyffrous i fudiadau Trydydd Sector a Busnesau Preifat yng Ngwynedd i ddod ynghyd i rannu syniadau a chynnig manteision ariannol i'r gymuned.
Mae Busnesau yn Cefnogi Cymunedau (B2C) yn annog busnesau i :-
- Gefnogi grwpiau trydydd sector lleol (cyrff cymunedol, gwirfoddol, elusennol a di-elw).
- Cynorthwyo busnesau i roi cefnogaeth ymarferol i grwpiau.e.e. amser, nwyddau neu wybodaeth. Gall y cymorth ymarferol hwn fod o gymorth mawr i grwpiau bach yn y gymuned.
- Cynorthwyo unigolion drwy chwilio a threfnu lleoliad profiad gwaith, profiad cyfweliadau a chyfleoedd gwirfoddoli er mwyn gwella eu sgiliau ym myd busnes.
- Yr amgylchedd a'r gymuned byddwn yn dod a gwirfoddolwyr o'r Trydydd sector a'r byd busnes at ei gilydd er mwyn gwella'r amgylchedd a safleoedd cyhoeddus yn y gymuned.
Rydym yn chwilio am sefyllfaoedd a chyfleoedd lle bydd pawb ar eu hennill, Wrth ymuno â B2C rydym yn gobeithio y bydd mudiadau a busnesau yn elwa drwy'i gilydd.
Dyma'r pump prif faes gwaith:
• Cynaladwyedd a Rhoddi
• Gwirfoddoli a Rhwydweithio
• Pobl Ifanc
• Pobl Hŷn
• Pobl Anodd eu Cyrraedd
Rhagor o wybodaeth ar gael ar gwefan Busnesau yn Cefnogi Cymunedau (B2C) - cliciwch yma
|