ond mantellgwynedd.com
 
Hafan
 

Gwirfoddoli


Ar gael i chi


Ariannu


Hyfforddiant a Digwyddiadau


Partneriaethau


Wal Fideo


 

 

www.flickr.com

Bookmark and Share

Staff



Bethan Russell Williams - Prif Swyddog
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Yn wreiddiol o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, mynychodd Bethan ysgol Gynradd Llanbedrog ac Ysgolion Uwchradd Pwllheli. Mynychodd Brifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1984 a 1989 gan lwyddo i raddio ddwywaith B.A. (anrhydedd) mewn Llenyddiaeth ac Iaith Gymraeg ym 1987 ac LL.B (anrhydedd) yn Y Gyfraith ym 1989. Mynychodd Coleg Y Gyfraith yng Nghaer yn dilyn hyn, ac wedyn cyfnod o hyfforddiant fel cyfreithwraig. Mae Bethan wedi gweithio yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

Erbyn hyn mae Bethan yn byw yn Nyffryn Nantlle gyda'i gŵr John ble mae'r ddau yn mwynhau'r awyr agored a mynydda. Llwyddodd Bethan i gerdded y cyfan, 177 milltir, o Glawdd Offa mewn wyth diwrnod ym 2011, a hefyd llwyddodd i gwblhau Marathon Llundain yr un flwyddyn. Ar y ddau achlysur cododd swm sylweddol o arian at elusen Cŵn Tywys Gwynedd.

Mae'n wirfoddolwraig frwd gyda Chŵn Tywys Gwynedd ac mae yn frwdfrydig dros y sector gymunedol a gwirfoddol yng Nghymru.

Bethan Russell Owen

 

Tîm Gwasanaethau


Delyth Vaughan - Uwch Swyddog Datblygu a Gwasanaethau
Swyddfa - Caernarfon a Dolgellau
Oriau Gwaith -
Llawn Amser


Daw Delyth yn wreiddiol o Bandy Tudur yn sir Conwy ble mynychodd Ysgol Gynradd Bro Cernyw ac yna Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, Llanrwst. Ymunodd â Mantell Gwynedd fis Ionawr 2006 wedi cyfnod o weithio fel Swyddog Datblygu i Gwmni Tabernacl Bethesda ar gynllun cymunedol ‘Pesda Roc’. Mae swydd Delyth yn benodol yn arwain y Tîm Datblygu a Gwasanaethau o fewn Mantell Gwynedd, yn delio ag ymholiadau grantiau amrywiol gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol, gweinyddu a rheoli cronfeydd grantiau, trefnu rhaglen hyfforddiant i’r trydydd sector yn ogystal â gwaith datblygu gyda grwpiau.

Graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor ym 2003 gyda gradd gydanrhydedd yn y Gymraeg a Cherddoriaeth. Tra’n gweithio fel Swyddog Datblygu cafodd Delyth ei hethol ar Fwrdd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru ac yn aelod o Grŵp Cyswllt y sector wirfoddol. Bu Delyth yn Llywydd Urdd Gobaith Cymru rhwng 2008-09 ac yn ei hamser sbâr (prin!) mae’n gwirfoddoli neu’n canu gyda Chôr Seiriol. Mae Delyth yn Ysgrifennydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ac yn Drysorydd Fforwm Celfyddydau Gwynedd ac Uwch Adran yr Urdd Bangor. Mae’n aelod o Bwyllgor Apêl Dyffryn Ogwen tuag at godi arian at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 ac yn aelod o Bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen ble mae hi’n gyfrifol am dlysau’r ‘Steddfod.

 


Prosiect “Gwneud y Cysylltiadau”


Carol Evans – Swyddog Datblygu Prosiect “Gwneud y Cysylltiadau”
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - llawn amser

Penodwyd Carol ym mis Awst 2012 fel Swyddog Datblygu Prosiect “Gwneud y Cysylltiadau”.

Bu’n gweithio yn y sector dros bymtheg mlynedd, yn gweithio i Gymdeithas Tai Eryri fel Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf Ward Peblig yng Nghaernarfon am bedair blynedd ac fel Swyddog Datblygu Cymuned am saith blynedd. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor ar Bopeth Môn a Gwynedd.

Mae Carol yn enedigol o Gaernarfon, ac erbyn hyn yn byw yn Waunfawr efo’i mab Cian. Yn ei hamser hamdden mae’n hoffi cerdded, nofio a threulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau.

Ei rôl bydd sicrhau gwell mewnbwn gan y trydydd sector i feysydd blaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yng Ngwynedd ac uchafu rôl y trydydd sector mewn darparu gwasanaethau cyhoeddus.


 

Emily Williamson -  Swyddog Prosiect (Ynys Môn & Gwynedd) Busnesau Yn Cefnogi Cymunedau (B2C)
Swyddfa   -  Caernarfon
Oriau Gwaith  -  Rhan Amser


Emily Williamson yw Swyddog Prosiect, Busnes yn y Gymuned ar gyfer Gwynedd a Môn sydd wedi’i leoli ym Mantell Gwynedd yng Nghaernarfon ac ym Medrwn Môn yn Llangefni.

Yn y gorffennol mae Emily wedi gweithio gyda nifer o grwpiau trydydd sector yn cyfrannu at eu datblygiad ac mewn amrywiol rolau gwirfoddoli. Yn ogystal â rolau gwirfoddol mae wedi bod yn gweithio fel gweithiwr datblygu ledled Môn yn darparu addysg gymunedol i oedolion. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau sydd yn helpu datblygu sgiliau grwpiau cymunedol ac unigolion. Mae Emily yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r cyfle yma i weithio ar brosiect sy’n ysbrydoli perthynas a chydweithrediad agos rhwng y sector breifat a’r trydydd sector.

 

Bet Huws – Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol
Swyddfa – Caernarfon / Dolgellau
Oriau Gwaith - Llawn Amser


Penodwyd Bet fel Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol yn Ionawr 2013.

Yn enedigol o Ros Isaf, cafodd ei magu ym Mhenmachno, a bellach mae’n byw yn Llanberis efo’i cheffylau. Bu’n athrawes gynradd a thiwtor Cymraeg i Oedolion cyn gwireddu dyhead ers plentyndod sef cynllunio gwisgoedd. Dilynodd yrfa yn cynllunio gwisgoedd ar gyfer theatr, ffilm a theledu am dros ugain mlynedd cyn ei phenodi fel Brocer Iaith Peblig yng Nghaernarfon. Dyma gynllun a fu’n cefnogi trigolion y ward i uchafu eu sgiliau Cymraeg i geisio am swyddi yn lleol, yn ogystal ag annog mentergarwch.

Yn ei rôl bresennol mae Bet yn hybu datblygiad mentrau cymdeithasol ar draws y sir ac yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i adnabod cyfleoedd busnes a masnachu. Y gobaith yw sicrhau cynaladwyedd mudiadau i’r dyfodol trwy adnabod eu potensial busnes. Mae prosiect Cymunedau Mentrus sydd yn cefnogi’r gwaith yma yn cael ei ariannu trwy gronfeydd Ewropeaidd Cydgyfeiriant.

 

 

Tîm Plant a Phobl Ifanc


Carwyn James Humphreys –  Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Ymunodd Carwyn â Mantell Gwynedd ym mis Awst 2010 fel Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc.

Yn hanu o Ddyffryn Nantlle, mynychodd Carwyn ysgolion cynradd ac uwchradd Penygroes ac yna Prifysgol Cymru, Bangor ble graddiodd ym 2008 gyda gradd gydanrhydedd mewn Ieithoedd Tramor Modern. Ym 2009 bu'n fyfyriwr ar gwrs dysgu fel athro uwchradd. Daw i'r swydd wedi nifer o brofiadau yn y maes plant a phobl ifanc megis fforymau ieuenctid lleol a chenedlaethol. Bu Carwyn yn cynrychioli plant a phobl ifanc Gwynedd ar y Ddraig Ffynci (Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc Cymru) a chafodd y fraint o gynrychioli plant a phobl ifanc Cymru yn ystod penwythnos yr UKYP (United Kingdom Youth Parliament) ym 2002. Mynychodd nifer o gyfarfodydd o Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd fel person ifanc ar ran y fforymau a bu hefyd yn gweithio i'r gwasanaeth ieuenctid a phrosiect Clywed.

Ei brif ddiddordebau yw cadw'n heini, gwrando ar gerddoriaeth a thrafeilio. Mae Carwyn yn gwirfoddoli fel un o aelodau bwrdd rheoli Cofis Bach. Mae hefyd yn wirfoddolwr brwd ac yn gadeirydd pwyllgor Cymru Pride Wales sydd yn trefnu digwyddiadau codi arian a gŵyl balchder ar gyfer y gymuned hoyw a'r gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru.

 

 

Prosiect “Teulu Ni”


Mair Ann Richards - Rheolydd Prosiect “Teulu Ni”
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Penodwyd Mair yn Rheolwr Prosiect Teulu Ni ym Mehefin 2012. Ar ôl un mlynedd ar hugain o flynyddoedd yn gweithio i GISDA ddaru ymddeol mis Tachwedd 2011, ond ar ôl 6 mis gartref roedd yn ysu i ddod yn ôl i weithio yn y Sector Wirfoddol.

Mae gan Mair brofiad helaeth o weithio a gwirfoddoli yn y Sector, bu yn Gadeirydd Mantell Gwynedd am oddeutu 6 blynedd ac wedi gwirfoddoli ac yn parhau i wneud gyda nifer o fudiadau lleol, gan gynnwys yn Ysgrifennydd i Glwb Pêl droed Ieuenctid Cae Glyn a hithau’n deall fawr ddim am bêl droed.

Mae Mair yn enedigol o Gaernarfon ac yn byw namyn lawr lon o swyddfa Mantell Gwynedd gyda ’i gwr Walter a Meg y ci.  Yn ei hamser hamdden mae’n hoffi darllen, cymdeithasu a threulio amser gyda’i phlant, wyrion ac wyresau a mynd a Meg am dro.

 

 

Tîm Cyllid a Gweinyddol


Ceren Williams - Dirprwy Brif Swyddog a Phennaeth Tîm Cyllid a Gweinyddu
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Ymunodd Ceren â Mantell Gwynedd ym 2001 ar ôl gweithio am 9 mlynedd gyda Cyfle Cyf, elusen gofrestredig sydd yn cynnig hyfforddiant yn niwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, drwy ddefnyddio arian Ewrop ac S4C. Cychwynnodd Ceren ei gyrfa yn yr 80au yn gofalu am gyllid y cynllun gwaith Antur Ieuenctid Gwynedd, oedd yn cael ei ariannu gan arian cyhoeddus.

Mae Ceren yn aelod o’r ‘Association of Accounting Technicians’, ac mae ganddi NVQ level 4 mewn Cyfrifon, astudiwyd yng Ngholeg Llandrillo.

Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cyllid â mudiadau elusennol. Mae’n brofiadol yn gofalu am gyllid Ewrop, Loteri, y Cynulliad ac arian cyhoeddus.

Mae Ceren wedi cael profiad helaeth o wirfoddoli fel trysorydd gyda mudiadau gwirfoddol lleol. Mae Ceren yn mwynhau gwirfoddoli gyda Phapur Dre Caernarfon. Ei phrif ddiddordebau yw darllen, cadw’n heini a mynd i’r Sinema ac i’r theatr.

 

Tracy Williams – Cynorthwy-ydd Cyllid
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith -
Rhan Amser

Ymunodd Tracy gyda Mantell Gwynedd ddechrau Gorffennaf 2012, fel Cynorthwy-ydd Cyllid ar ôl gwella ei haddysg trwy Goleg Menai.

Cyn hynny, bu yn gweithio fel Cynorthwy-ydd  Meithrin am 7 mlynedd.

Ar hyn o bryd mae Tracy yn astudio tuag at “Association of Accounting Technicians” yng Ngholeg Menai, Bangor, ar ôl llwyddo i gwblhau cwrs “Sage” a chwrs cadw cyfrifon.   Yn ogystal mae hi hefyd wedi cyflawni cwrs “ECDL hanfodol ac ychwanegol”.

Mae Tracy yn mwynhau treulio ei hamser hamdden gyda'i theulu, cymdeithasu, cadw’n heini a mynd ar wyliau.

 

Bronwen Rowlands - Swyddog Gweinyddol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Cychwynnodd Bronwen ei gyrfa gyda Chyngor Gwlad Gwynedd yn 1977 pan ei phenodwyd fel Clerc/Teipydd i'w swyddfa yn Nolgellau, a buodd yn y swydd am saith mlynedd.

Yn 1992 cafodd ei phenodi fel Swyddog Gweinyddol gyda'r Cyngor Gwlad, eto yn Nolgellau hyd ddiwedd Mawrth 1997. Yn ystod y cyfnod yma cafodd Cyngor Gwlad Gwynedd ei ail enwi'n Gwasanaethau Gwirfoddol Gwynedd.

Ar 1af Ebrill 1997, yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol, fe newidiwyd Gwasanaethau Gwirfoddol Gwynedd i Mantell Gwynedd. Symudwyd y swydd Swyddog Gweinyddol llawn amser i Gaernarfon ble mae Bronwen wedi ei lleoli heddiw.

 

Ellen ap Dafydd – Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Swyddfa – Dolgellau
Oriau Gwaith - Rhan Amser

Penodwyd Ellen yn Gynorthwy-ydd Gweinyddol yn Swyddfa Mantell Gwynedd Dolgellau ym mis Ebrill 2010.

Yn dilyn cyfnod yn astudio cwrs NVQ Lefel 3 dwyieithog mewn Gweinyddiaeth Busnes yng Ngholeg Meirion/Dwyfor, Dolgellau bu Ellen yn gweithio i Gyngor Gwynedd am gyfnod o naw mlynedd gan gychwyn fel Cymhorthydd Gweinyddol yn Swyddfa'r Lawnt, Dolgellau . Bu’n gweithio ar nifer o ddatblygiadau o fewn y Cyngor gan gynnwys Cynllun Budd-dal Trosiannol, Cynllun Lleoli Oedolion a Chynllun Teleofal.

Mae Ellen yn mwynhau gwau, mynychu nosweithiau cymdeithasol e.e. noson cwis ac mae’n gwirfoddoli fel ysgrifenyddes i dri mudiad yn ei chymuned.

 

Tracy Lynne Rotheram - Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith -
Rhan amser

Penodwyd Tracy fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol i'r Uned Defnyddwyr ym mis Mai 2002 yn dilyn cwrs NVQ 2 ym Musnes a Gweinyddiaeth yng Ngholeg Menai. Pan ddaeth y cynllun Uned Defnyddwyr i ben ym mis Mawrth 2006 symudodd Tracy i weithio fel gweinyddwraig i'r Adran Grantiau, Iechyd, Gofal a Lles a'r Ganolfan Wirfoddoli. Mae Tracy ar hyn o bryd yn astudio tuag at Ddiploma NVQ 3 mewn Busnes a Gweinyddiaeth.

Mae Tracy yn mwynhau treulio ei hamser sbâr yn darllen, garddio, carafanio, gwneud cardiau a threulio amser hefo'i wyrion. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli efo Llygaid Maesincla, grŵp lleol sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth am sut i atal trosedd a chodi arian i gael camerâu CCTV yn yr ardal. Mae Tracy yn ysgrifennydd i'r grŵp ac yn mynychu cyfarfodydd a chymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau codi arian.

 

Tayera Khan - Derbynnydd
Swyddfa Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan amser

Mae Tayera yn enedigol o Fangor ac wedi cael ei magu yng Nghaernarfon. Mae'n siarad pedwar o ieithoedd, Cymraeg, Saesneg, Pashto a Urdu.

Yn 1995 cafodd Tayera swydd Ysgrifenyddes/Derbynnydd mewn swyddfa Cyfreithwyr yng Nghaernarfon a bu yno hyd 2008 pan adawodd i fagu teulu.
Ym mis Mehefin 2011 dychwelodd Tayera yn ôl i’r gweithle a dechrau swydd gyda Mantell Gwynedd fel Derbynnydd rhan amser.

Mae Tayera wedi cwblhau cyrsiau NVQ 2 a 3 mewn Busnes a Gweinyddiaeth yn Hyfforddiant Gwynedd a Hyfforddiant Arfon/Dwyfor.

Mae'n mwynhau treulio ei hamser sbâr gyda'r plant, yn gwrando ar gerddoriaeth yn darllen ac yn trafeilio dramor.

 

Tîm Canolfan Gwirfoddolwyr


Rhianon Jones - Cydlynydd Gwirfoddoli
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan Amser

Mae Rhianon yn enedigol o Ddyffryn Conwy.

Wedi graddio mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cafodd swydd fel athrawes mewn ysgol uwchradd yn Arfon, a bu’n dysgu am gyfnod o 10 mlynedd. Wedi cyfnod adref yn magu teulu, bu’n gweithio â sawl mudiad gwirfoddol yn lleol. Ymunodd â thîm gwirfoddoli Mantell Gwynedd yn wreiddiol fel ‘Swyddog Maes’ yn Chwefror 2001, ac mae yn ei swydd bresennol ers Gorffennaf 2001. Fel rhan o’i gwaith mae’n rhoi gwybodaeth i bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli, yn cadw cyswllt gyda mudiadau sydd angen gwirfoddolwyr, ac yn hyrwyddo gwirfoddoli yn gyffredinol. Fel ‘Cydlynydd Gwirfoddoli’ mae’n gyfrifol am arwain tîm Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd.

 


Iola Till - Swyddog Gwirfoddoli
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan amser

Mae Iola wedi gweithio yng Nghanolfan Gwirfoddoli Gwynedd ers 2001 ac yn y cyfnod yma wedi cyfarfod llu o bobl diddorol, i gyd a’u pryd ar wirfoddoli. Ei gwaith pennaf yw rhoi gwybodaeth i unigolion am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngwynedd a hybu gwirfoddoli yn gyffredinol gyda’r mudiadau a’r cyhoedd.

Bu Iola’n gwirfoddoli ei hun gydag amryw o gymdeithasau, a nawr mae yn gynrychiolydd ar Gyngor Cymuned Beddgelert ac yn aelod o Gwmni Gwynant Cyf. Ffurfiwyd Cwmni Gwynant i brynu Capel Bethania, Nantgwynant yn 2001 pan gaewyd y Capel fel lle addoli. Mae’r Capel wedi ei adnewyddu fel caffi a thrigolion yr ardal ac ymwelwyr yn elwa o’r adnodd. Galwch heibio am baned a chacen!


 


Ann Angharad Fleming - Swyddog Gwirfoddoli
Swyddfa – Dolgellau
Oriau Gwaith -
Rhan amser

Ymunodd Ann â thîm Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd yn Ionawr 2003. Mae’n gyfrifol am hyrwyddo gwirfoddoli’n gyffredinol gyda chyfrifoldeb penodol am Feirionnydd.

Mae Ann yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli i’r cyhoedd, recriwtio gwirfoddolwyr a’u lleoli gyda mudiadau addas. Mae Ann ar gael hefyd i ymweld â mudiadau i roi sgwrs am ei gwaith.

Daw o gefndir nyrsio a ddatblygodd i fyd hybu iechyd, ac yn 1990 mentrodd i fyd busnes yn ei thref enedigol sef Tywyn gan agor tŷ bwyta o’r enw Bwyta’n Iach. O ganlyniad i hyn mae’n parhau hyd heddiw i hybu iechyd yn wirfoddol trwy rannu o’i phrofiad i helpu eraill ac yn falch o'r cyfle bob amser I wneud hyn.

 

Mirain Roberts - Swyddog Gwirfoddoli
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith – Llawn Amser

Ymunodd Mirain â Mantell Gwynedd ddiwedd Ebrill 2007. Ei rôl yw hyrwyddo gwirfoddoli ymysg ieuenctid a rhoi gwybodaeth iddynt am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngwynedd. Mae'n barod i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiad am wirfoddoli ond yn canolbwyntio yn bennaf ar wirfoddoli ymysg pobl ifanc, maes sydd yn prysur ddatblygu.

Mae Mirain ar gael hefyd y tu allan i oriau swyddfa i ymweld â mudiadau/grwpiau o bobli ifanc i roi sgwrs am ei gwaith.

Un o brif ddiddordebau Mirain yw canu gyda chôr lleol, Lleisiau'r Mignedd.

Mae'n gwirfoddoli gyda Phwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd 2012 a hefyd yn gwirfoddoli gyda Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle yn flynyddol.

 


Tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Sioned Llwyd Larsen - Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith -
Llawn Amser

Penodwyd Sioned i’w swydd ym Medi 2004 o dan y Cynllun Codi Pontydd Cadarn , cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae wedi gweithio mewn amryw o feysydd dros y blynyddoedd yn y sector gwirfoddol yn ogystal â’r sector statudol. Roedd ei gwaith yn cynnwys dysgu a hyfforddi oedolion mewn coleg addysg bellach, rheolwr datblygu partneriaethau, gwaith ymchwil a datblygu ynghyd â nifer o feysydd eraill.

Yn enedigol o’r Parc ger y Bala mae ganddi adnabyddiaeth dda o Wynedd a’i anghenion. Mae ganddi ddiddordeb byw yn y maes y mae’n gweithio ynddo ac wedi gweld budd personol o newid ei ffordd o fyw a gwneud mwy o ymarfer corff

 


Cynllun Ffrindia'


Carys Williams Rheolydd Prosiect Ffrindia'
Swyddfa Caernarfon
Oriau Gwaith Llawn Amser

Penodwyd Carys yn Rheolwr Cynllun Ffrindia yn Rhagfyr 2011. Mynychodd Carys Brifysgol Bangor fel myfyriwr aeddfed gan raddio yn 1996. Ers hynny mae wedi gweithio yn y trydydd sector gyda Gwasanaeth Adfocatiaeth Gogledd Cymru a Menter Fachwen cyn dod i weithio i Mantell Gwynedd ym 2003. Bu yn gyfrifol am nifer o brosiectau o fewn Mantell Gwynedd, a chyn cychwyn ar ei gwaith gyda Chynllun Ffrindia' bu'n swyddog ar gynllun Y Porth Ymgysylltu.

Yn wreiddiol o gyrion y Lôn Goed, yn Nwyfor mae Carys wedi ymgartrefu ym Mhenygroes ers rhai blynyddoedd. Mae'n ymddiddori yn lleol drwy fod yn drysorydd Pwyllgor Neuadd Goffa Penygroes a phapur bro lleol, LLEU. Ers blynyddoedd mae wyneb Carys wedi bod yn gysylltiedig ag Urdd Gobaith Cymru yn rhanbarth Eryri, ac ar hyn o bryd mae'n edrych ymlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri yn 2012.

Yn ei amser hamdden darllen yw ei phrif' ddiddordeb gyda mwynhau gwyliau yn carafanio yn ail eithaf agos.

 

Nia Haf - Cydlynydd Cynllun Ffrindia’ – Arfon
Swyddfa: Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Ymunodd Nia â Mantell Gwynedd yn 2012 fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr i Gynllun Ffrindia’ ardal Arfon.

Mae wedi ymgartrefu’n ôl adra ym Mae Colwyn wedi bron pedair blynedd yng Nghaerdydd. Cyn ei swydd gyda Mantell, bu’n gweithio yn Uned Adnoddau Dynol Bwrdd yr Iaith Gymraeg am ddwy flynedd. Cyn hynny bu gyda BBC Radio Cymru yn Llandaf fel Cynorthwyydd Personol i’r Cynhyrchydd. Bu’n ymchwilydd ar amryw o raglenni ac yn Gynorthwyydd Cynhyrchu Rhaglen Eleri a Daf. Cael cynnig swydd fel Swyddog Datblygu i Cyfle Cyf. hudodd hi i Gaerdydd yn y lle cyntaf, ac mae’n falch o’r cyfle i fod wedi gallu blasu bywyd y Brif ddinas unwaith yn ystod ei llwybr gyrfaol. Gweithiodd i Cyfle Cyf. am gyfnod yng Nghaernarfon hefyd wedi iddi fod ar un o’i chyrsiau hyfforddiant sef Cynllun Newydd Ddyfodiaid lle bu’n derbyn hyfforddiant sgriptio yn y maes cyfryngol. Cafodd lwyddiant gyda’r sgriptio ac mi fydd yn parhau gyda hyn pan ddaw’r awen!

Mi fydd yn mwynhau mynd i ymarferion a chyngherddau Côr Alaw a chymdeithasu dros bryd o fwyd (rhan amlaf!) ar y penwythnosau gyda’i chariad a’i ffrindiau....ac ar yr wythfed dydd o bob wythnos bydd yn ymweld â’r gampfa!

 

Dawn Thomas – Cydlynydd Cynllun Ffrindia’ - Dwyfor
Swyddfa: Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Penodwyd Dawn fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cynllun Ffrindia yn Ionawr 2012. Wedi graddio mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ac ennill ei thystysgrif addysg yng Ngholeg Y Normal Bangor cychwynnodd ei gyrfa fel athrawes Gynradd. Ym 2001 newidiodd ei gyrfa i reoli prosiectau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Cafodd ei chyflogi gan Niace Dysgu Cymru i weithio ar y cyd gyda Sefydliad Y Merched i gynnig a chynnal hyfforddiant cyfrifiadurol. Yn dilyn hynny bu’n gweithio gyda Deudraeth Cyf, menter gymdeithasol am 5 mlynedd hyd at ddiwedd 2011 lle bu’n rheoli’r cynllun Dyfodol Digidol ac yn cydlynu’r cynllun Hyfforddiant Darlledu. Ei phrif faes yw hyfforddi a threfnu, cafodd ei henwebu fel tiwtor y flwyddyn 2 flynedd yn olynol.

Yn wreiddiol o Llan Ffestiniog, mae Dawn erbyn hyn yn byw ym Mhenrhyndeudraeth efo'i gŵr Gareth. Yn ei hamser hamdden mae hi'n ymddiddori mewn cerddoriaeth, gwaith llaw a threulio amser efo'i theulu. Mae Dawn yn aelod brwd o wahanol bwyllgorau yn y gymuned, yn cynnwys yr Eisteddfod leol a phwyllgor i lywio dathliadau 200 mlynedd y Cob.

 

Gwenlli Haf – Cydlynydd Cynllun Ffrindia’ - Meirionnydd
Swyddfa: Dolgellau a Phenrhyndeudraeth
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Gwenlli yw Cydlynydd ardal Meirionnydd ar gyfer cynllun cyfeillio Ffrindia’ sy’n weithredol o fis Ionawr 2012 hyd ddiwedd 2017. Mae Gwenlli yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i fod yn gyfeillion gwirfoddol i bobl sydd dros 50 mlwydd oed a fyddai’n buddio o’r fath gefnogaeth. Mae’r cynllun yn weithredol drwy Wynedd gyfan, ac yn bartneriaeth arloesol rhwng Mantell Gwynedd, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Gwynedd a Môn ac Age Cymru Gwynedd a Môn. Fe’i hariennir gan gronfa’r Loteri.

Mae Gwenlli wedi gweithio a gwirfoddoli yn y drydedd sector ers 2001, gyda’r rhan helaeth o’r cyfnod hwnnw yn cefnogi oedolion a phobl ifanc bregus, a chyfnod yn gweithio a gwirfoddoli ym meysydd datblygu cynaliadwy, cyfiawnder cymdeithasol a dinasyddiaeth. Mae Gwenlli’n mwynhau darllen, sgwrsio, beicio a gwersylla, ac yn tueddu i wneud dau neu fwy o’r pethau hynny ar yr un pryd!


 
   
  Swyddfa Gofrestredig: CAERNARFON
23-25 Y Bont Bridd
Caernarfon
Gwynedd,
LL55 1AB
Ffôn: 01286 672626
Facs: 01286 678430
e-bost:
ymholiadau@mantellgwynedd.com
Swyddfa Gofrestredig: DOLGELLAU
Yr Hen Orsaf Heddlu
Y Lawnt
Dolgellau
LL40 1SB

Ffôn: 01341 422575
Facs: 01341 422147
e-bost:
dolgellau@mantellgwynedd.com
 


Gwefan gan Delwedd