Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc

Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc

Mae aelodaeth o’r Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc Gwynedd yn agored i unrhyw fudiad sydd â diddordeb mewn lles plant a phobl ifanc neu sy’n gweithio yn uniongyrchol yn y maes. Mae’n gyfrwng gwych i dderbyn a rhannu gwybodaeth ac wrth gwrs i rwydweithio! Felly os ydych chi yn awyddus i gael mewnbwn, mae croeso calon i chi ymuno â ni.

Trefnir siaradwyr gwadd yn achlysurol a bydd gwaith yr Hwylusydd yn cynnwys adnabod anghenion aelodau o ran gwybodaeth a hyfforddiant fel bo modd rhannu hyn â gweddill yr aelodau. Mae’r Rhwydwaith hefyd yn gyfrwng gwych i ddiwedaru mudiadau ar faterion polisi, gwaith y Bartneriaeth Strategol yng Ngwynedd ynghyd â’r Gweithgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yng Ngwynedd.

Cynhelir cyfarfod nesaf o’r Rhwydwaith ar y 10fed o Fai am 10y.b yn Nhremadog. Cysylltwch â Carwyn am fwy o wybodaeth.

 

 

 

 

 

Plant a Phobl Ifanc | Newyddion/ Blog plant a phobl Ifanc | Dogfennau | Rhwydwaith Plant a phobl Ifanc | Partneriaeth Plant a phobl ifanc

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru