Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Y Porth Ymgysylltu

CEFNDIR

Mae’r Porth Ymgysylltu yn gynllun Cydgyfeiriant sydd yn cynnig contractau i fudiadau yn y Trydydd Sector, Statudol a Phreifat i leihau anweithgarwch economaidd Yng Ngwynedd drwy fuddsoddi mewn mudiadau sy’n gweithio gyda’r bobl hynny nad ydynt mewn cyflogaeth prif ffrwd a’r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.

Mae’r cynllun yn cael rheoli gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyda Ymgynghorydd wedi ei leoli ymhob ardal yng Ngogledd Cymru:

Cysylltiadau Gogledd Cymru

Mae’r pedwar swyddog sydd yn gweithio yn ardaloedd cydgyfeiriant Gogledd Cymru wedi ei henwi isod. Yr ydych angen cysylltu gyda’r swyddog sydd yn gweithio yn yr ardal yr ydych am gario allan eich prosiect.

Gwynedd:
Carys Williams
Mantell Gwynedd
23-25 Y Bont Bridd
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1AB
01286 672626
carys@mantellgwynedd.com

Ynys Môn:
Mark Gahan
Uned 5,
Parc Diwydiannol
Bryn Cefni,
Llangefni,
Ynys Môn LL77 7XA
01248 724944
mark@medrwnmon.org


Dinbych
Maggie McQuillan
Swyddog Cynghori Y Porth Ymgysylltu
Cyngor Gwirfoddol Dinbych
Canolfan Naylor Leyland
Rhuthun
Dinbych
LL15 1AF
01824 702441
maggie@dvsc.co.uk

Conwy
Rhian Morris
42 Madoc Street
Llandudno
Conwy
LL30 2TW
United Kingdom
Tel: 01492 871110
rhianmorris@cvsc.org.uk

NEWYDDION

NEWIDIADAU
O Ebrill 1af 2012 ni fydd mudiadau sydd wedi eu cynnwys ar y Rhestr Cyflenwyr Cymeradwy yn tendro am GONTRACTAU ond yn ymgeisio am GRANTIAU CYSTADLEUOL. Felly os bydd mudiad yn llwyddiannus o dan y cynllun nid CYTUNDEB fyddant yn arwyddo ond TELERAU AC AMODAU. Gyda CHYTUNDEB fe fyddai rhaid i CGGC mynd trwy gamau cyfreithiol i ddatrys unrhyw broblemau, gyda dogfen TELERAU AC AMODAU fe fedrant ofyn i’r mudiad ad-dalu unrhyw gyllid sydd wedi ei dalu iddynt.

NEWYDDLEN Y PORTH YMGYSYLLTU

Medi 2011 - cliciwch yma
Gorffennaf 2011
- cliciwch yma

ARIAN CYFATEBOL

Yn dilyn derbyn gwybodaeth gan nifer o fudiadau sydd yn bwriadu cynnig am gontractau y broblem fwyaf sydd ganddynt yw Arian Cyfatebol. Os ydych eisiau gwybodaeth bellach am sut i gael mynediad at gyllid gallwch gysylltu gyda Carys Williams neu Delyth Vaughan yn Mantell Gwynedd.

HYFFORDDIANT

Cyrsiau Coleg Harlech

Mae Coleg Harlech yn rhoi cyfle i unigolion nad ydynt wedi elwa ar addysg i fuddsoddi ynddynt eu hunain a’u dyfodol. Mae mynychu cyrsiau o’r tebyg yn allbwn addysg bellach ar gyfer Y Porth Ymgysylltu. Y rhai mwyaf diweddar yw:

Y Rhaglen Gwyddor Cymdeithas

Rhaglen yw hob wedi ei chynllunio ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn astudio agweddau ar Seicoleg, Cymdeithaseg, Nyrsio, Gofal Iechyd a Therapi.

Technoleg Cerddoriaeth

I rywun sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Gellir astudio meysydd megis
• Cynhyrchu sain
• Dilyniannu (midi ac awdio)
• Golygu digidol (gan gynnwys sain ar ffilm)
• Perfformio
• Damcaniaeth cerddoriaeth
• Cyfansoddi modern
Am fwy o wybodaeth am yr uchod cysylltwch gyda:
Swyddog Derbyn Myfyrwyr, Coleg Harlech, Harlech, Gwynedd LL46 2PU
01766 781900 e-bost info@fc.harlech.ac.uk

Y Farchnad Drosiannol

Cynllun sydd yn rhedeg ochr yn ochr a’r Porth Ymgysylltu yw cynllun Y Farchnad Drosiannol. Bydd y cynllun yn ffurfio contractau gyda sefydliadau sy’n darparu gweithgareddau yn y gweithle i grwpiau targed, gweithgareddau a fydd yn meithrin hyder a sgiliau er mwyn eu symud i gyfeiriad cyflogaeth gynaliadwy, gan arwain at fwy o ddatblygu cynaliadwy a chydlyniant cymdeithasol yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Gwirfoddol Gweithredol Cymru www.CGGC.org.uk

Linc i wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyda tudalen ar eu gwefan yn dangos y cyswllt ar gyfer Y Porth Ymgysylltu ymhob ardal cydgyfeiriant yng Nghymru. - cliciwch yma

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru