Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Plant a Phobl Ifanc

Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc

Bu i Mantell Gwynedd sicrhau dyraniad o arian tanwariant CYMORTH yn Medi 2007 er mwyn cefnogi swydd Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc i’r Trydydd Sector. Adnabuwyd yr angen am y swydd er mwyn cynnig cefnogaeth a hwyluso cyswllt rhwng y Trydydd Sector a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Ngwynedd. Mae swydd debyg yn bodoli ym mhob sir trwy Gymru ac mae’n adnodd holl bwysig i sicrhau bod llais mudiadau, sy’n gweithio ym maes plant a phobl ifanc, yn cael eu clywed.

Swydd llawn amser ydyw wedi ei lleoli yn swyddfa Mantell Gwynedd yng Nghaernarfon. Un o brif gyfrifoldebau’r swydd yw datblygu a chefnogi rhwydweithiau plant a phobl ifanc o fewn y sir yn ogystal a gofalu bod llais y Trydydd Sector yn cael ei glywed. Mae’r Hwylusydd ynghyd a nifer o gynrychiolwyr eraill o’r sector yn aelodau ar y Bartneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc . Y Bartneriaeth sy’n gyfrifol am hyrwyddo a chydgordio datblygiadau mewn perthyna â materion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc gan gynnwys addysg, iechyd a lles, diogelwch, cyfleoedd chwarae, hamdden a diwylliant, anghenion lletya ayb. Am ragor o wybodaeth am y Bartneriaeth a’r grwpiau strategol ewch i ‘Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc

Mae cynrychiolwyr y Trydydd Sector ar y Bartneriaeth Strategol fel a ganlyn:

Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd

Mantell Gwynedd

Carwyn Humphreys

carwynhumphreys@mantellgwynedd.com

GISDA

Mair Richards

mair@gisda.co.uk

SNAP Cymru

Rhys Wyn Parri

rhyswyn.parri@snapcymru.org

Grŵp Strategol – Ymchwil, Comisiynu ac Ansawdd

Mantell Gwynedd

Carwyn Humphreys

carwynhumphreys@mantellgwynedd.com

GISDA

Mair Richards

mair@gisda.co.uk

Grŵp Strategol – Y Cychwyn Gorau

Barnardo’s

Llinos Rowlands

llinos.rowlands@barnardos.org.uk

SNAP Cymru

Angharad Jones

angharad.jones@snapcymru.org

Grŵp Strategol – Gwasanaethau Pobl Ifanc

SNAP

Rhys Wyn Parri

rhyswyn.parri@snapcymru.org

GISDA

Catrin Roberts

catrin@gisda.co.uk

Canolfan Gwirfoddoli

Mirain Roberts

mirain@mantellgwynedd.com

Grŵp Strategol – Rhyddid Rhag Tlodi

Sylfaen

Brian Thirsk

sylfaen@ukonline.co.uk

CAB

Cemlyn Williams

cemlyn@cabgwynedd.co.uk

Barnardo’s

Kevin Williams

Kevin.williams@barnardos.org.uk

Grŵp Strategol – Llais Plant a Phobl Ifanc

SNAP

Nia Perrin

nia.perrin@snapcymru.org

Gweithredu Dros Blant

Glenys Campbell

glenys.campbell@actionforchildren.org.uk

Cynllun Ieuenctid Pwllheli

Eric Price

cip01@tiscali.co.uk

Gellir cysylltu ag unrhyw un ynghylch codi materion yng nghyfarfodydd y Bartneriaeth!

Yn ogystal â mynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth a threfnu cyfarfodydd Rhwydwaith bydd yr Hwylusydd yn cynrychioli’r Sector ar nifer o Bartneriaethau a grwpiau eraill hefyd e.e. Bwrdd Lleol Diogelu Plant, CAMHS, Grwp Cefnogi’r Sector Gwirfoddol (Plant yng Nghymru).

O bosib mai un o’r elfennau pwysicaf i’r Sector yw gofalu bod gwybodaeth berthnasol yn rhaeadru’n rhwydd. Cydlynir system reolaidd o anfon gwybodaeth allan at grwpiau lleol gan yr Hwylusydd. Gwneir hyn mewn amryw o ddulliau e.e. cyfrannu’n chwarterol i ‘Mantell’, newyddlen y Sector gyflawn sy’n cael ei pharatoi gan Mantell Gwynedd, gyrru bwletinau perthnasol pan fo’r galw, newyddion rheolaidd ar wefan Mantell Gwynedd ynghyd a chyfrannu at newyddlenni a gwefannau eraill yn lleol a chenedlaethol. Erfynnir ar fudiadau i wneud defnydd o’r gwasanaeth i gyflwyno gwybodaeth i’w ddosbarthu yn ogystal â’i dderbyn!

Trefnir seminarau, cynadleddau a grwpiau trafod at ddiben ymgynghori hefyd.

Cyflwynir ffurflenni gwerthuso at ddiben adnabod anghenion yn ystod pob digwyddiad fel y rhai a nodir uchod a defnyddir y wybodaeth i wella ar y gwasanaeth a gynigir yn ogystal ag adnabod bylchau yn y ddarpariaeth bresennol.

Mae annog cydweithio rhwng mudiadau yn uchel iawn ar agenda’r Hwylusydd hefyd. Mae hyn yn digwydd yn naturiol o fewn y Trydydd Sector yn barod. Y gobaith yw y gellir magu perthynas iach â’r Bartneriaeth fel bo modd annog cydweithio tebyg rhwng mudiadau’r Sector â’r Bartneriaeth yn ogystal.

Os hoffech chi drafod anghenion eich mudiad, boed yn wybodaeth yn hyfforddiant neu’n fater i’w godi yng Nghyfarfodydd y Bartneriaeth, cofiwch gysylltu â’r Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc, sy’n awyddus iawn i glywed gennych.

Mae’r swydd yno i’ch cefnogi a’ch cynrychioli chi, felly gwnewch y mwyafrif o’r cyfle!

Cysylltwch a Carwyn Humphreys (Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc):
Carwynhumphreys@mantellgwynedd.com






Plant a Phobl Ifanc | Newyddion/ Blog plant a phobl Ifanc | Dogfennau | Rhwydwaith Plant a phobl Ifanc | Partneriaeth Plant a phobl ifanc

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru