Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Cynllun sydd yn cael ei redeg ledled y D.U. yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm gyda’r nôd o hyrwyddo a chydnabod gwirfoddoli gan bobl ifanc rhwng 16 – 24 oed.
Dyma 6 rheswm dros wirfoddoli :
- ennill profiadau newydd
- gwneud ffrindiau newydd
- datblygu sgiliau
- gwella eich rhagolygon am waith
- cydnabyddiaeth gan gyflogwyr, colegau a’r gymuned leol.
- mwynhau eich hun!
Ac os ydych yn gwirfoddoli, mae’n werth cofrestru fel ‘Gwirfoddolwr y Mileniwm’
Beth mae’n ei olygu i chi?
- Cewch gofrestru ar y cynllun yn lleol gyda Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd (mae hyn yn golygu cwblhau dwy ffurflen, a chytuno i gadw cofnod o’r oriau pan fyddwch yn gwirfoddoli).
- Eich nôd fyddai anelu i wirfoddoli am 200 awr mewn blwyddyn. Cewch gydnabyddiaeth am wirfoddoli am leiafswm o 100 awr mewn blwyddyn.
- Gallwch wneud unrhyw beth a fydd yn helpu eich cymuned leol.
- Cewch wirfoddoli gyda mwy nac un mudiad e.e. darllen tapiau i’r deillion, cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig, helpu gyda cynlluniau darllen ........
- Pan fyddwch wedi cwblhau 100 awr o wirfoddoli, cewch Dystysgrif.
- Ar ol cwblhau 200 awr o wirfoddoli mewn blwyddyn, cewch Wobr Rhagoriaeth gan Brif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel prawf o’ch gwaith caled!
Chi Piau’r Dewis - Ni fydd yn costio dim i chi. Telir holl dreuliau gwirfoddolwyr.
Felly - Os hoffech chi fod yn ‘Wirfoddolwr y Mileniwm’, cysylltwch â ni (ffurflen cofrestru diddordeb). Gwnawn eich helpu i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli fydd yn cyfateb orau â’ch diddordebau chi a’r amser sydd gennych i’w gynnig.
Chwiliwch yma am gyfle sydd yn ennyn eich diddordeb – www.gwirfoddolicymru.net
Cliciwch ar safle we www.millenniumvolunteers.gov.uk i ddarllen am brofiadau pobl ifanc drwy’r D.U.
Gwirfoddoli : Cyfleoedd Newydd | Gwirfoddolwyr y Mileniwm | Gwasanaeth i Fudiadau | Cofrestru Diddordeb | Digwyddiadau Biwro | Newyddion