Gwasanaeth i Fudiadau
Mae Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd yn cynnig gwasanaeth arbennig i’r mudiadau a grwpiau sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal a datblygu eu gwasanaeth.
A yw eich grwp neu’ch mudiad chi yn –
- Chwilio am wirfoddolwyr er mwyn helpu i gynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd?
- Recriwtio gwirfoddolwyr newydd yn rheolaidd?
- Angen gwybodaeth am yr ymarfer da ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr?
- Eisiau rhoi cyfle i wirfoddolwyr – ond ddim yn siwr iawn beth i wneud nesaf?
Drwy gofrestru gyda’r Biwro cewch fanteisio ar y gwasanaethau canlynol -.
- Ychwanegu eich cyfle gwirfoddoli chi ar wefan lwyddiannus www.gwirfoddolicymru.net – yn rhad ac am ddim.
- Gwneud defnydd o’r Llyfrgell wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer sy’n rhoi gwybodaeth am ystod eang o bynciau sy’n ymwneud a gwirfoddoli e.e. llunio Polisi Gwirfoddoli, Sut i recriwtio gwirfoddolwyr yn llwyddiannus, Llunio llawlyfr i wirfoddolwyr, Gwirfoddoli a Pobl Ifanc a.y.b.
- Gwahoddiad i fod yn rhan o ‘Rwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Gwynedd’ er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am wirfoddoli a rhannu profiadau.
- Derbyn gwahoddiad i fynychu digwyddiadau a drefnir gan y Biwro e.e. Wythnos Gwirfoddolwyr; cyflwyniadau ac ymweliadau ac ysgolion; cyfle i ymuno a ni ar y strydoedd yn Ngwynedd i ledaenu’r neges am wirfoddoli a recriwtio gwirfoddolwyr newydd!
- Manteisio ar y cyfle i roi cynnig i’r gwirfoddolwyr yn eich mudiad i fynychu Hyfforddiant sydd yn cael ei drefnu yn arbennig i wirfoddolwyr yn rhad ac am ddim e.e. Cymorth Cyntaf, Sgiliau Cyfathrebu, Sgiliau Pendantrwydd a.y.b.
Cofrestrwch Nawr (ffurflen cofrestru diddordeb)
Gwirfoddoli : Cyfleoedd Newydd | Gwirfoddolwyr y Mileniwm | Gwasanaeth i Fudiadau | Cofrestru Diddordeb | Digwyddiadau Biwro | Newyddion