Cyfleoedd Newydd
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Rhianon, Iola, Mirain neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen ‘Cofrestru Diddordeb’
Y Groes Goch
Mae cynllun 'Gofal' gan Y Groes Goch yn anelu i hyrwyddo lles a budd pobl dros 50 oed yng ngogledd Cymru. Mae angen gwirfoddolwyr (o bob oed!) i gefnogi unigolion (dros 50 oed) ar lefel 1:1 am hyd at 12 wythnos. Bydd y gwirfoddolwyr yn cadw cwmni iddynt, yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac yn eu hannog i fynd allan a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol lleol.
Darperir hyfforddiant llawn. Mae'n bwysig fod y gwirfoddolwyr yn wrandawyr da ac yn gallu cyfathrebu yn effeithiol.
SOVA Cymru
Yn gweithio gyda troseddwyr i arbed ail-droseddu. Maent angen mentoriaid i gefnogi unigolion allan yn y gymuned. Amrywiol ddyletswyddau. Darperir hyfforddiant am ddim.
Cymdeithas Alzheimer’s
Yn edrych ar ol hawliau pawb sydd yn dioddef o dementia ac hefyd y rhai sydd yn gofalu amdanynt.
Maent angen person i roi ei hamser i helpu yn y caffi côf sydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth unwaith y mis. Croesawy pobl, gweinio diod a gwneud yn siwr fod pawb yn hapus. Sgiliau gwrando yn ddymunol a’r gallu i siarad yn Gymraeg.
Cylch Ti a Fi Penisarwaun
Grwp lleol sydd yn galluogi babanod, plant bychain a’u gofalwyr i ddod at eu gilydd a chymdeithasu.
Maent angen help gyda’r holl weithgareddau – estyn a chadw tegannau, cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r plant, gwaith crefftau, paratoi ffrwyth a diod/paned a golchi llestri.
Y Gymdeithas Strôc
Mae’r Gymdeithas yn rhoi cymorth i unigolion sydd wedi cael strôc ac i roi cefnogaeth i’w teuluoedd. Maent angen Gyrrwr Car i fynd ac unigolion i siopa, at y meddyg, i’r ysbyty ac aros gyda hwy tra bod angen. Ad-delir costau a darperir hyfforddiant perthnasol.
Robin - Gwirfoddolwyr Ward
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ehangu eu cynllun cynorthwyo ar wardiau i Ysbyty Gwynedd. Mae angen gwirfoddolwyr i gyfeillio a sgwrsio gyda chleifion, gweini diodydd poeth ac oer, yn ogystal â mynd ar negeseuon ar ran staff a chleifion.
Drwy wneud tasgau (sydd heb fod yn rhai meddygol), mae gwirfoddolwyr yn cefnogi cleifion a staff ar wardiau Ysbyty Gwynedd.
Marie Curie
Trefnydd blychau casglu arian (gan gynnwys blychau "Cennin Pedr").
Nod Gofal Cancr Marie Curie yw darparu gofal nyrsio am ddim i gleifion terfynol wael o gancr. Mae angen gwirfoddolwyr i fod yn gyfrifol am flychau casglu arian yn eu cymuned - i drefnu lleoliadau ac i gasglu'r blychau arian. Hefyd, i gyfrif, bancio a chadw cofnod o'r holl arian a gesglir ar ran yr elusen.
Bydd gwirfoddolwyr angen sgiliau cyfathrebu da. Yn ystod misoedd Chwefror, Mawrth ac Ebrill mae Marie Curie yn lansio eu "Hymgyrch Cennin Pedr', a gofynnir i wirfoddolwyr roi sylw i flychau 'Cennin Pedr' y mudiad yn ystod y misoedd yma.
'Cymdeithas Preswylwyr Maesgeirchen a Thanybryn'
Cynorthwyo i baratoi a gweini cinio.
Mae 'Cymdeithas Preswylwyr Maesgeirchen a Thanybryn' (MATRA) yn darparu cinio yn Nhŷ Cegin ar ddydd Iau i bobl yn y gymuned. Mae angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda gweini'r bwyd, croesawu pobl a chlirio wedyn.
Gweinir y bwyd o 12pm ymlaen
Cynllun Y Rhwyd
Gwrando a chyfeirio pobl gyda thrafferthion ariannol at wasanaethau perthnasol
Bwriad cynllun 'Y Rhwyd' yw sefydlu rhwydwaith cefnogol i unigolion gyda materion cyllidol i'w galluogi i wneud y mwyaf o'u harian trwy gynnal sesiynau cymorth ledled Gwynedd. Mae angen 20 gwirfoddolwr i'w hyfforddi er mwyn darparu gwasanaeth gwrando a chyfeirio mewn Llyfrgelloedd ar draws y Sir.
Darperir hyfforddiant fydd wedi ei achredu gan Agored Cymru (lefel 2). Partneriaeth yw'r Rhwyd rhwng Sylfaen Cymunedol Cyf., Cyngor ar Bopeth, Undeb Credyd Gogledd Cymru a Llyfrgelloedd Gwynedd ac wedi ei noddi gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Gwynedd.
Ysgol Gynradd Dolgellau
Mae Ysgol Gynradd Dolgellau yn chwilio am wirfoddolwyr fyddai'n gallu gwrando ar blant yn darllen ar sail un i un. Yn ddelfrydol, byddai gwirfoddolwyr yn gallu gwneud darllen yn hwyl i'r plant! Hefyd maent angen help i gadw trefn ar waith papur a ffeilio.
Ty Gwydr
Gwirfoddolwr ei angen i wneud gwaith gweinyddol, rhedeg yr adeilad cymunedol a trefnu digwyddiadau. Mae Ty Gwydr yn ganolfan gymunedol annibynnol sydd wastad yn barod i ystyried syniadau a mentrau newydd. Rydym yn darparu gwybodaeth, man cyfarfod a chyfleusterau swyddfa i bobl leol, ac hefyd i grwpiau gwirfoddol, cymunedol ac ymgyrchu.
Rainbows, Brownies a Guides
Mae grwpiau i blant rhwng 5 a 14 oed ar gael yn ardal Criccieth a Pwllheli. A oes gennych chi 2 awr i gynnig pob wythnos i gynnal gweithgareddau ac helpu gyda'r plant. Cysylltwch NAWR.
Ambiwlans Awyr Cymru
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yn eu lleoliad byr brydau sydd yn Llys y Goron, Caernarfon. Byddwch yn cynorthwyo i ddarparu a gweinyddu byr brydau a diodydd. Byddwch yn derbyn hyfforddiant Hylendid Bwyd Sylfaenol. Byddai profiad o weithio gyda bwyd yn fantais ond dim yn ofynol. Maent angen gwirfoddolwyr fedr roi o leiaf 2 awr yr wythnos.
Hybu Apêl Arch Noa
Mae Apêl Arch Noa yn chwilio am wirfoddolwyr sydd am hybu ein ymgyrchoedd a digwyddiadau drwy roi posteri yn y siopau neu erthyglau yn y papurau lleol a gwefannau yn hysbysebu ein digwyddiadau. Gall rhai unigolion hefyd hybu yr elusen i grwpiau lleol drwy siarad gyda grwpiau am waith yr elusen. Telir costau trafeilio yn ôl y galw
...mwy o wybodaeth? www.gwirfoddolicymru.net
Gwirfoddoli : Cyfleoedd Newydd | Gwirfoddolwyr y Mileniwm | Gwasanaeth i Fudiadau | Cofrestru Diddordeb | Digwyddiadau | Newyddion