Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Gwirfoddoli

A ydych yn chwilio am rywbeth cyffrous a diddorol i’w wneud?
Mae yna ddewis eang iawn o gyfleoedd gwirfoddoli ar eich cyfer, er enghraifft:
  • Gwarchod yr amgylchedd
  • Cwnsela
  • Gwaith swyddfa
  • Gyrru
  • Codi arian
  • a llawer, llawer mwy...

Beth bynnag yw eich sgiliau neu ddiddordebau – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Sut gallwn eich helpu?
Mae Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd fel “siop cyfleoedd”.

  1. Galwch heibio, a gallwn ddweud wrthych beth sydd ar gael yn lleol a’ch rhoi mewn cysylltiad â mudiadau. Cewch gyngor a thrafod beth yr hoffech ei wneud. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyfle sydd yn addas i chi.
  2. Cysylltwch â ni drwy e-bost –(Ffurflen cofrestru diddordeb)
  3. Codwch y ffôn am sgwrs – 01286 672626 / 01341 422575
  4. Cliciwch YMA am y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf yng Ngwynedd.
  5. Cliciwch ar www.gwirfoddolicymru.net – sef gwefan o gyfleoedd gwirfoddoli drwy Gymru.

A ydych rhwng 16 a 24 oed?
Y mae cynllun arbennig i chi gael ymuno ag ef – Gwirfoddolwr y Mileniwm

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Ydych chi’n falch o’r ffordd yr ydych yn trin eich gwirfoddolwyr?
Fyddech chi’n dymuno i’ch arferion da gael eu cydnabod?
Fyddech chi’n hoffi gwiriad o’ch gweithdrefnau ar gyfer gwirfoddolwyr?

Yna ceisiwch am Farc Ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw safon ansawdd y DU ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr. Os yw’ch mudiad yn cynnwys gwirfoddolwyr, bydd cyflawni safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn galluogi eich mudiad i adolygu eich systemau rheoli gwirfoddolwyr er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r adnodd pobl gwerthfawr hwn.

Mae’r asesiad yn rhoi sylw i 4 maes:

• Cynllunio Cyfraniad Gwirfoddolwyr
• Recriwtio Gwirfoddolwyr
• Dethol a Chydweddu Gwirfoddolwyr
• Chefnogi a Chadw Gwirfoddolwyr

Rhannwyd y broses yn 10 cam syml. Mae defnyddiau arweiniol, gwybodaeth a chyngor ar gael ar linc i wefan CGGC, yn ogystal ag aseswr penodedig.

Gwirfoddoli : Cyfleoedd Newydd | Gwirfoddolwyr y Mileniwm | Gwasanaeth i Fudiadau | Cofrestru Diddordeb | Digwyddiadau

 

GWIRFODDOLI
Mae gwirfoddoli yn rhan bwysig iawn o fywydau pobl o bob oed sydd yn rhoi eu hamser a’u profiadau i helpu eraill. Drwy wneud rhywbeth gwerth chweil a phleserus, mae gwirfoddoli yn agor drysau i bawb i ddatblygu sgiliau newydd, lledu gorwelion a chyfrannu at fywyd y gymuned

.

 

 

 

 

 

Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru