Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Gwaith MantellCODI PONTYDD CADARN

IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A LLES:

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod y sector gwirfoddol yn bartner allweddol yn y gwaith o ddarparu ei hagenda iechyd a lles a dyna sydd wrth wraidd y cynllun Codi Pontydd Cadarn a sefydlwyd yn 2003.


Fel rhan o’r cynllun yma penodwyd Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mhob sir drwy Gymru wedi eu lleoli gyda’r Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Lleol.

Nod Swydd yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw:

  • Cryfhau rôl a chyfraniad y sector wirfoddol drwy weithio mewn partneriaeth i gefnogi’r agenda Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles drwy gynllunio, datblygu, comisiynu, cyflenwi a gwerthuso gwasanaethau yn lleol ac yn ranbarthol.

Mae meysydd gwaith yr Hwylusydd yn cynnwys y canlynol:

  • Comisiynu – cefnogi’r Sector gwirfoddol i gymryd rhan mwy effeithiol wrth gomisiynu gwasanaethau gyda’r nod o gynyddu gwasanaethau y sector sy’n cael eu cynnig gan y sector gwirfoddol.
  • Polisïau Cyfredol e.e. Salwch Cronig/Hunan reoli anhwylderau – codi ymwybyddiaeth o rôl a chyfraniad y sector gwirfoddol yn y meysydd blaenoriaeth yma a hwylsuo’r broses i’w cynnwys wrth ddatblygu gwasanaethau.
  • Grwpiau difreintiedig gan gynnwys cydweithio gyda Chymunedau’n Gyntaf – hwyluso cyfraniad y grwpiau yma gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio gan roddi ystyriaeth deg i anghenion y grwpiau yma.
  • Ymchwil a Datblygu – cefnogi a hyrwyddo gwaith ymchwil sydd wedi ei wneud gan y Sector gwirfoddol gan sicrhau mewnbwn y sector gwirfoddol wrth asesu anghenion iechyd lleol.
  • Yr Agenda Strategol – cyfrannu at hyn drwy hyrwyddo ac ymwneud â’r strategaeth iechyd. Gofal a lles gan sicrhau cyfraniad a rôl y sector gwirfoddol
  • Iechyd Cyhoeddus a Lles – hyrwyddo a chefnogi cynlluniau’r sector gwirfoddol ym maes iechyd cyhoeddus a lles.
  • Gwirfoddoli dros Iechyd – hyrwyddo cynlluniau Gwirfoddoli dros iechyd a gofal cymdeithasol ar draws pob sector

Llais i’r Sector Gwirfoddol!

Sefydlwyd Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd i sicrhau llais i’r sector gwirfoddol yn y maes yma. Cynhelir y cyfarfodydd yma tua tair gwaith y flwyddyn sy’n rhoi cyfle i fudiadau/grwpiau ym maes iechyd, gofal a lles leisio eu barn a rhannu syniadau gyda grwpiau eraill.


Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am eitemau i’w cynnwys yn y cyfarfodydd yma mae croeso i chi gysylltu â Sioned ar:  01286 672626 neu sioned@mantellgwynedd.com


Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Codi Pontydd Cadarn* ewch ar: www.codipontyddcadarn.org.uk

Iechyd a Lles: Dogfennau | Dolenni | Digwyddiadau Iechyd | Newyddlen Iechyd | Newyddion

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru