Grantiau a Ffynnonellau Arian
Croeso i Adran Grantiau ar Wefan Mantell Gwynedd.
Gweler isod gyfleuster chwilio a all eich cyfeirio at wybodaeth neu fanylion cyswllt am amrywiol grantiau sydd wedi eu pecynnu yn ôl sefydliad/corff e.e CIST Gwynedd, Cyngor Gwynedd, Cronfa Loteri Fawr, WCVA ac ati. Cofiwch hefyd mae canoedd o ymddiriedolaethau elusennol i’w cael. Mae pob un yn cefnogi gweithgareddau gwahanol a’r symiau sydd ganddynt i’w dosbarthu yn amrywiol.
Chwilio yn ôl Categori
Rydym yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol bob amser ond ni allwn gymryd cyfrifoldeb am unrhyw wybodaeth a ddangosir yma. Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni neu’r sefydliad/corff cyllido am wybodaeth bellach am y grantiau cyn ymgeisio. Dylid nodi hefyd mai nid y grantiau a nodir yma yw’r unig grantiau sydd ar gael. Detholiad o’r grantiau mwyaf cyffredinol yn unig a geir yma.
Dylid nodi hefyd fod gennym raglen gyfrifiadurol Funder Finder i roi cymorth i grwpiau ganfod grantiau gan Ymddiriedolaethau mewn maes penodol e.e pobl ifanc, chwaraeon, celfyddydau, henoed ac ati. Os ydych yn dymuno i ni wneud ymchwil ar eich rhan cysylltwch â’r Swyddog Grantiau ar 01286 672 626.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau ar gyfer prosiect arbennig neu weithgaredd/eitemau penodol defnyddiwch y ffurflen ymholiad ar-lein neu cysylltwch â mi Delyth Vaughan, Swyddog Grantiau a Chefnogaeth, Mantell Gwynedd – delyth@mantellgwynedd.com neu ffoniwch y swyddfa 01286 672 626
Grantiau ~ Newyddion