Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

PEG (Partneriaeth Economaith Gwynedd)PEG (Partneriaeth Economaith Gwynedd)

Gwefan: cliciwch yma

Mae Partneriaeth Economaidd Gwynedd a’i Grwp Llywio yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth lleol i Wynedd fydd yn cynnwys goruhwylio ei weithrediad drwy hyrwyddo cydblethiad a chydweithrediad economaidd er mwyn hybu a gweithredu cynlluniau datblygu economaidd newydd o fewn y sir.

Mae rôl a chyfrifoldebau aelodau Grŵp Llywio Partneriaeth Economaidd Gwynedd yn cynnwys:

  • Datblygu strategaeth datblygu lleol i’r ardal
  • Datblygu strwythurau, prosesau a threfniadau i weithredu strategaeth datblygu lleol yr ardal
  • Monitro datblygiad a gweithrediad y strategaeth datblygu lleol i’r ardal
  • Cyfrannu tuag at dargedu’r adnoddau sydd ar gael ac ymateb i anghenion ac adnabod cyfleoedd fydd yn datblygu’r economi ymhellach
  • Darparu sylwadau ar brosiectau sydd yn chwilio am arian gan ffynhonellau rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd a dosbarthiad gweithgareddau rhanbarthol a chenedlaethol
  • Monitro gweithgareddau sefydliadau sydd wedi eu hapwyntio i ddosbarthu strategaeth datblygu economaidd, a glynu at ofynion ariannol rheolaethol
  • Sichrau bod prosiectau yn gadarn, werth am arian ac wedi eu datblygu’n dda gan ymateb i anghenion ac yn cael effaith bositif ar yr economi yn cael eu dwyn ymlaen a’u dewis am i gael eu gwerthuso a’u hariannu
  • Monitro gweithredu a chanlyniadau prosiectau datblygu economaidd sy’n cael eu dosbarthu yn lleol
  • Hwyluso cydblethu a chydweithredu gweithgareddau datblygu economaidd yng Ngwynedd
  • Hyrwyddo gweithgareddau a rhaglenni datblygu economaidd yng Ngwynedd

Mae rhai cynlluniau eisioes wedi eu darparu e.e.

  • Cynllun Datblygu Gwledig Cymru
  • Rhaglen Gweithredu dros Gymunedau Gwledig
  • Rhaglen Amcan 1 Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (2000 - 2006)
  • Rhaglenni Cydgyfeirio a Cydweithrediad Tiriogaethol (2007 – 2013)

Cyswllt: Vivienne Pritchard
FFôn:      01286 679343
Cyfeiriad:

PEG
Uned Ewrop
Adran Cynllunio a Datblygu Economaidd
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

E-bost: peg@gwynedd.gov.uk


Dyddiadau cyfarfodydd PEG yn 2008

25ain o Ionawr
7fed o Fawrth
2ail o Fai
4ydd o Orffennaf
26ain o Fedi (Cyfarfod Blynyddol hefyd)
5ed o Ragfyr


Llwyddo’n Lleol

Mae Llwyddo’n Lleol yn is-grŵp Partneriaeth Economaidd Gwynedd fydd yn edrych ar gynlluniau i hyrwyddo datblygiadau economaidd ymysg pobl ifanc. Mae nodau Llwyddo’n Lleol fel a ganlyn:

  • Meithrin a datblygu pobl ifanc i ddod yn fentrus o fewn eu cymunedau
  • Eu galluogi i gyfrannu at ddatblygiad eu hardal
  • Eu cynorthwyo i ddod yn gyfranogwyr, cyfranwyr a darpar fuddranddalwyr o fewn yr economi leol
  • Rhoi iddynt sgiliau, gwybodaeth, profiad ymarferol a hyder i wneud hynny.

Y grwpiau targed:

  • Pobl Ifanc rhwng 13-30 oed
  • Cymunedau Cymraeg eu hiaith
  • Busnesau bach a micro (yn cynnwys clystyrau cynnyrch a mentrau cydweithredol)

Dogfennau


Cynrychioli/Partneriaethau | Strategaeth Gymunedol (Gwynedd ar y Cyd) | Grŵp Cyswllt y Sector Wirfoddol | Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc | Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles | CPSG (Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol) | PEG (Partneriaeth Economaith Gwynedd)

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru