Mae Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol (VSPC) yn un o'r cyrff allweddol sy'n cynnal deialog rheolaidd rhwng y Sector gwirfoddol a'r Cynulliad Cenedlaethol. Caiff bob amser ei gadeirio gan Weinidog. Mae aelodau yn cynnwys:
11 Aelod Cynulliad
21 cynrychiolydd o rwydweithiau'r sector gwirfoddol
3 chynrychiolydd o CGGC
Prif ddiben Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol yw sicrhau y caiff yr egwyddorion a esbonnir yng Nghynllun y Sector Gwirfoddol eu rhoi ar waith. Rhydd gyfle hefyd i'r sector godi meysydd allweddol sy’n ymwneud â materion sy'n effeithio ar Gymru gyfan neu sy’n peri pryder iddynt gydag Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad.
Mae'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru ac anogir y cyhoedd i ddod i'r cyfarfodydd.
Dogfennau
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am raglenni cyfarfodydd, cofnodion a phapurau holl gyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol.