Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Grwp Cyswllt - rhwng y Sector Gwirfoddol â Chyngor GwyneddGwynedd ar y Cyd (Strategaeth Gymunedol Gwynedd)

Gwynedd ar y Cyd yw enw Strategaeth Gymunedol Gwynedd sydd â’r nod o sicrhau gwell ansawdd bywyd i drigolion Gwynedd nawr ac i’r dyfodol. Mae Bwrdd Llywio Gwynedd ar y cyd yn cynnwys y pobl sy’n gyfrifol am gymryd penderfyniadau allweddol mewn Partneriaethau ac Asiantaethau yng Ngwynedd. Mae prif swyddogion y cyrff yma wedi cytuno i ddechrau gweithio mewn ffyrdd newydd ac i amserlen newydd er mwyn darparu gwell gwasanaethau drwy’r Sir. Mae Strategaeth newydd Gwynedd ar y Cyd yn dechrau cymryd siâp yn dilyn proses sydd wedi ystyried yn fanwl pa ffactorau sy’n cynnig cyfleoedd a rhwystrau i wella Gwynedd dros y 10-15 mlynedd nesaf. Er mwyn cyflawni ein potensial rydym wedi adnabod saith maes strategol : Economi a Sgiliau, Gwasanaethau Arloesol, Newid Hinsawdd, Tai, Asedau Amgylcheddol, Newid Demograffig, Cymdeithas, Iaith a Diwylliant. Mae Arweinwyr y blaenoriaethau yma yn datblygu cynlluniau gweithredu gydag amcanion penodol i’w cyflawni dros y 3,5 a 10 mlynedd nesaf. Gwynedd ar y Cyd…….ffordd newydd o weithio……


Staff y Bartneriaeth

Pwynt cyswllt
– Gwynedd ar y Cyd, Adran y Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Ffôn: 01286 679906/679965 
we: www.gwyneddarycyd.org.uk/
e-bost: gwybodaeth@gwyneddarycyd.org.uk


Dogfennau

Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd - cliciwch yma


Cynrychioli/Partneriaethau | Strategaeth Gymunedol (Gwynedd ar y Cyd) | Grŵp Cyswllt y Sector Wirfoddol | Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc | Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles | CPSG (Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol) | PEG (Partneriaeth Economaith Gwynedd)

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru