Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Gwaith MantellPartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd

Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd i weithio ar y cyd i oruchwylio a chydgordio datblygu a gweithredu’r Strategaeth Gwell Iechyd - Gwell Gwynedd a ddaeth i rym ar 1af o Ebrill 2005. Gweledigaeth y Bartneriaeth yw “I anelu bod iechyd a lles pobl Gwynedd yn cymharu â’r gorau yn Ewrop”

Amcanion y strategaeth yw gwella iechyd, gofal cymdeithasol a lles poblogaeth Gwynedd; gwella gwasanaethau; a sicrhau gwell cynllunio a buddsoddi adnoddau. Mae’r Strategaeth yn cynnig cyfle i ganolbwyntio ar sut i geisio taclo’r hyn sy’n effeithio ar iechyd ag anghydraddoldebau iechyd yng Ngwynedd.

Dyma’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer 2005-2008:

  • Pobl Hŷn
  • Plant, Pobl ifanc a Rhieni ifanc
  • Clefydau Cylchrediad (clefyd coronaidd, y galon, strôc a chlefyd siwgr)
  • Canser (ysgyfaint, y fron a choluddyn mawr]
  • Anafiadau
  • Grwpiau poblogaeth allweddol eraill [gofalwyr, pobl ddigartref, anableddau dysgu, pobl anabl (nam corfforol ac ar y synhwyrau), pobl ddi-waith a lleiafrifoedd ethnig

Yn ystod y cyfnod mae’r Bartneriaeth wedi cytuno y dylid canolbwyntio ar y canlynol:

  • Ffordd o fyw – alcohol, bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol, ysmygu
  • Anafiadau
  • Tai
  • Gwybodaeth
  • Mynediad at Wasanaethau/Cludiant

Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar B artneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd

Mantell Gwynedd

Alwyn Rowlands ar ran y Bwrdd Rheoli
Sioned Larsen (ar ran Bethan Russell Owen, Prif Swyddog)


Dogfennau

Cynrychioli/Partneriaethau | Strategaeth Gymunedol (Gwynedd ar y Cyd) | Grŵp Cyswllt y Sector Wirfoddol | Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc | Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles | CPSG (Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol) | PEG (Partneriaeth Economaith Gwynedd)

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru