Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd
Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd yw’r bartneriaeth sy’n gyfrifol am hyrwyddo lles, llais a hawliau plant a phobl ifanc Gwynedd yn unol â gofynion Y Ddeddf Plant 2004.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 2004 sy’n sail ar gyfer llunio polisïau a strategaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent wedi ymrwymo i sicrhau bod egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael eu gwireddu ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae’r egwyddorion hyn wedi cael eu crynhoi ar ffurf saith nod craidd sy’n ymddangos bellach o dan faner newydd sef ‘Cymry Ifanc : Young Wales’.
Saith Nod Craidd Llywodraeth y Cynulliad:
- Nod craidd 1 - Yn cael dechrau teg mewn bywyd
- Nod craidd 2 - Yn cael amrywiaeth gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu
- Nod craidd 3 - Yn mwynhau’r iechyd gorau posibl ac nad ydynt yn cael eu cam-drin, eu fictimeiddio na’u hecsbloetio
- Nod craidd 4 - Yn cael mynediad i weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
- Nod craidd 5 - Yn cael eu clywed, eu trin â pharch, a bod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol yn cael eu cydnabod
- Nod craidd 6 - Yn cael cartref diogel a chymuned sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol
- Nod craidd 7 - Yn osgoi cael eu rhoi dan anfantais oherwydd tlodi.
Yn ogystal â hyn mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer y pum mlynedd nesaf sy’n ymateb i flaenoriaethau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn - ‘Gwneud Pethau’n Iawn’
Y Nodau Craidd a’r blaenoriaethau yma sy’n llywio gwaith y Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru ac sy’n sail i’r Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc a gaiff eu paratoi’n lleol gan bob Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc.
Mabwysiadodd y Bartneriaeth y Confensiwn yn Ionawr 2007 ac mae wedi ymrwymo’i hun yn llawn i hyrwyddo ac i weithredu ar hawliau plant a phobl ifanc Gwynedd. Mewn ymateb i hyn, mae Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd wedi datblygu a chyhoeddi Siarter Hawliau i Blant a Phobl Ifanc Gwynedd sef ‘Hawliau Ni’ sy’n cydfynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
‘Hawliau Ni’ - Siarter Hawliau Gwynedd
1 Cychwyn Ni - Yr hawl i gael y cychwyn gorau mewn bywyd
2 Addysg Ni - Yr hawl i ddysgu a datblygu sgiliau
3 Iechyd Ni - Yr hawl i fod yn iach
4 Amser Ni - Yr hawl i fwynhau ac i ymlacio
5 Llais Ni - Yr hawl i leisio barn a derbyn parch
6 Diogelwch Ni - Yr hawl i fod yn ddiogel
7 Dyfodol Ni - Yr hawl i ddyfodol da
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynghylch strwythur, aelodaeth, gwaith a blaenoriaethau’r Bartneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc yng Ngwynedd.
Plant a Phobl Ifanc | Cynrychioli/Partneriaethau | Strategaeth Gymunedol (Gwynedd ar y Cyd) | Grŵp Cyswllt y Sector Wirfoddol | Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc | Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles | CPSG (Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol) | PEG (Partneriaeth Economaith Gwynedd) |