Beth yw Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf?
Mae Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn troi o gwmpas y broses o cefnogi cymunedau i benderfynu eu anghenion eu hunain a chware rhan weithgar i ffurfio dyfodol eu cymuned. Mae yn ymwneud a’i galluogi i ddatblygu yr hyder, yr wybodaeth, sgiliau a phrofiad i weithredu’n annibynol. Nod ac amcanion y rhaglen yw:
- Rhaglen deng mlynedd i wella amodau byw a rhagolygon pobl sy'n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
- Rhaglen sydd yn ceisio sicrhau fod nawdd a chefnogaeth ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau eraill sy'n derbyn nawdd cyhoeddus yn cael eu targedu at yr ardaloedd tlotaf.
- Rhaglen sydd yn grymuso pobl leol er mwyn eu galluogi i benderfynu beth sydd ei angen i adfywio'r ardaloedd y maent yn byw a gweithio ynddynt.
- Rhaglen yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth pellgyrhaeddol i'n cymunedau difreintiedig.
Pwy sydd yn Gymwys?
Y 100 ward etholiadol fwyaf difreintiedig, yn ôl Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru (argraffiad 2000). Mae’r rhaglen yn targedu chwe phrif thema
- Gwaith a Busnes
- Addysg a Hyfforddiant
- Amgylchedd
- Iechyd a Lles
- Cymunedau Gweithgar
- Tor Cyfraith a Diogelwch Cymunedau
Cymunedau'n Gyntaf
Ers Medi 2005 mae Mantell Gwynedd wedi bod gyda dau swyddog i weithio yn benodol yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Mae Carys Williams yn gweithio yn ardaloedd Arfon a Dwyfor gyda Mair Morys Huws yn gweithio yn ardal Meirionnydd. Nod ac Amcanion y swyddi yw:
- Cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf
- Cynrychioli’r sector wirfoddol yng nghyfarfodydd y partneriaethau
- Cynnal cyfarfodydd rhwydwaith i’r partneriaethau er mwyn:
- Cyfnewid ymarferion da
- Cyfnewid syniadau
- Creu cysylltiadau
- Cynnal sesiynnau gwybodaeth/hyfforddiant i’r partneriaethau.
Os ydych yn grwp gwirfoddol/cymunedol yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf gallwch gysylltu ar swyddogion yn y cyfeiriadau isod:
| Carys Williams |
Mair Morys Huws |
| Swyddog Cefnogi Cymunedau'n Gyntaf |
Swyddog Cefnogi Cymunedau'n Gyntaf |
| Mantell Gwynedd |
Mantell Gwynedd |
| 24-26 Stryd Fawr |
Yr Hen Orsaf Heddlu |
| CAERNARFON |
Y Lawnt |
| LL55 1RH |
DOLGELLAU |
| |
LL40 1SB |
| 01286 672626 |
01341 422575 |
| carys@mantellgwynedd.com |
mair@mantellgwynedd.co.uk |
Cymunedau'n Gyntaf :
Map o'r wardiau | Rhestr o'r Cydlynwyr | Digwyddiadau Cymunedau | Newyddion