Adnoddau/Offer
Dyma restr o'r adnoddau ar gael
(Cliciwch ar yr adnoddau am fwy o wybodaeth) :-
Offer cyfieithu is-goch
Mae Cyflais 2 yn offer cyfieithu ar y pryd sy’n addas i’w defnyddio mewn cyfarfodydd priefat neu cyfarfodydd cyhoeddus. I’w gludo o gwmpas, mae’r offer yn cynnwys 4 cês a stand tripod i osod y sustem is-goch. Mae yn cynnwys 25 o glustffonau.
Os ydych wedi ymaelodi â Mantell Gwynedd cewch ei logi am bris gostyngol.
I logi’r offer cyfieithu is-goch, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
Offer cyfieithu “sibrwd”
Mae offer cyfieithu ‘Cyflais’ yn offer cyfieithu ar y pryd sy’n addas i’w defnyddio mewn cyfarfodydd priefat neu gyfarfodydd cyhoeddus. Mae set ar gael yng Nghaernarfon sy’n cynnwys 1 cês gyda 30 o glusffonau ac un set yn Nolgellau sy’n cynnwys 1 cês gyda 20 o glusffonau.
Os ydych wedi ymaelodi â Mantell Gwynedd cewch ei logi am bris gostyngol.
I logi’r offer cyfieithu sibrwd, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
Sustem PA (MIPRO) MA–101 Wireless PA System
Mae Sustem PA yn system sy’n addas i’w defnyddio mewn cyfarfodydd, ar stondinau, ayyb. Mae yn sustem ysgafn i’w chario, yn gweithio heb wifren, ansawdd cryf a chlir.
Os ydych wedi ymaelodi â Mantell Gwynedd cewch ei logi am bris gostyngol.
I logi’r Sustem PA, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
Byrddau Arddangos
Mae Byrddau Arddangos yn addas i roi ar fwrdd mewn unrhyw ddigwyddiad. Mae 1 ochr yn mesur 3ft 1.5 "x 2ft 1.5" ac mae 3 ochr iddynt.
Y gost o’u llogi yw £10 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.
I logi’r Byrddau Arddangos, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
OHP
Mae Over Head Projector 3M (OHP) yn ysgafn i’w gario a gellir ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd, hyfforddiant, ayb.
Y gost i’w llogi yw £20 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £10, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.
I logi’r OHP, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
Sgrîn
Mae Sgrîn ar gael i’w defnyddio gyda offer fel Over Head Projector.
Y gost i’w llogi yw £10 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.
I’w llogi, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
Flip Chart
Mae stand Flip Chart ar gael i’w defnyddio mewn cyfarfodydd, hyfforddiant, aybac mae 2 stand ar gael. Cewch ei llogi o swyddfa Gaernarfon a’r gost o‘u llogi yw £10 yr un ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5.
I’w llogi, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
Llogi Ystafell
YSTAFELL GYFARFOD MANTELL GWYNEDD
Mae gan Mantell Gwynedd Ystafell Hyfforddiant/Cyfarfod ar gael i’w llogi i fudiadau.
Lleolir yr Ystafell Gyfarfod yn swyddfeydd newydd Mantell Gwynedd yn
23-25 Y Bont Bridd, Caernarfon, LL55 1AB
Mae’r ystafell (sy’n dal hyd at 12 o bobl) gyda mynediad i’r anabl a chyfleusterau te/coffi. Cewch logi’r ystafell am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan.
Am fanylion prisiau cliciwch yma. Mae gostyngiad i fudiadau sydd wedi ymaelodi â Mantell Gwynedd ac wedi talu ein tâl aelodaeth blynyddol o £10.
I ddatgan eich diddordeb, a fyddwch cystal â chwblhau Ffurflen Llogi Ystafell.
Llungopio
Mae gwasanaeth Llungopio ar gael yn swyddfa Caernarfon a Dolgellau. Os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna mae gostyniad yn y pris am bob copi.
I wneud cais am y gwasanaeth mae angen i chi gwblhau Ffurflen Ymholiad
Beindio
- clawr crib
Mae Crib Clawr Ibimatic (Comb Binder) yn beindio tudalennau A4 gyda’i gilydd i wneud llyfryn wrth ddefnyddio cynnyrch Ibico e.e. Ibicombs.
Y gost i’w llogi yw £10 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.
Gellir defnyddio Crib Clawr Ibimatic yn ein swyddfa yn Gaernarfon. Y gost unigol yw 50c yr un i bob un llyfryn neu 25c yr un, os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd.
I’w llogi, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.
Lamineiddio
Mae offer Lamineiddio Rexel yn gwella cyflwr dogfennau a lluniau i’w cadw (maint A4 neu lai).
I lamineiddio, y gost yw 50c y copi, ond os yw eich mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd, yna mae y pris yn 25c y copi. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o swyddfa Gaernarfon.
I wneud cais am y gwasanaeth mae angen i chi gwblhau Ffurflen Ymholiad
Gwasanaeth Cyflogau
Mae Mantell Gwynedd yn cynnig gwasanaeth paratoi cyflogau i fudiadau gwirfoddol.
Am ragor o fanylion cysyllter â Ceren Williams, Rheolydd Cyllid ar 01286 672626 ebost: ceren@mantellgwynedd.com
I wneud cais am y gwasanaeth mae angen i chi gwblhau Ffurflen Ymholiad