Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Staff


Bethan Russell OwenBethan Russell Williams - Prif Swyddog
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Yn wreiddiol o Lanbedrog ym Mhen Llŷn mynychodd Bethan ysgol Gynradd Llanbedrog ac Ysgolion Uwchradd Pwllheli. Mynychodd Brifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1984 a 1989 gan lwyddo i raddio ddwywaith – BA (anrhydedd) mewn Llenyddiaeth a Iaith Gymraeg ym 1987 ac LLB (anrhydedd) mewn Cyfraith  ym 1989. Mynychodd Coleg Y Gyfraith yng Nghaer yn dilyn hyn a chyfnod o hyfforddiant fel cyfreithwraig. Mae Bethan wedi gweithio yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol  yng Nghymru dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

Erbyn hyn mae Bethan yn byw yn Nyffryn Nantlle gyda’i gŵr John ble mae’r ddau yn mwynhau yr awyr agored a mynydda. Llwyddodd Bethan i gerdded y cyfan, 177 milltir, o Glawdd Offa mewn wyth diwrnod ym 2011, a hefyd llwyddodd i gwblhau Marathon Llundain yr un flwyddyn. Ar y ddau achlysur cododd swm sylweddol o arian at elusen Cŵn Tywys Gwynedd.

Mae yn wirfoddolwraig frwd gyda Cŵn Tywys Gwynedd ac mae yn frwdfrydig dros y sector gymundeol a gwirfoddol yng Nghymru.


Tîm Gwasanaethau


Delyth Vaughan - Uwch Swyddog Datblygu a Gwasanaethau
Swyddfa - Caernarfon a Dolgellau
Oriau Gwaith -
Llawn Amser

Ymunodd Delyth Vaughan â Mantell Gwynedd fis Ionawr 2006 wedi gweithio fel Swyddog Datblygu i Gwmni Tabernacl Bethesda ar gynllun cymunedol ‘Pesda Roc’. Mae swydd Delyth yn benodol yn arwain y tim datblygu a gwsanaethau, yn delio â ymholiadau grantiau amrywiol gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol, gweinyddu a rheoli cronfeydd grantiau megis Cronfa Galluogi Gwynedd yn ogystal â gwaith datblygu gyda grwpiau.

Graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor yn 2003 gyda gradd gyd-anrhydedd yn y Gymraeg a Cherddoriaeth. Tra’n gweithio fel Swyddog Datblygu cafodd Delyth ei hethol ar Fwrdd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru ac yn aelod o Grwp Cyswllt y sector wirfoddol. Mae Delyth yn Llywydd Urdd Gobaith Cymru 2008-09 ac yn ei hamser sbâr (prin!) mae hi’n gwirfoddoli gyda sawl mudiad yn lleol.


Emily Williamson – Swyddog Busnes yn y Gymuned
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith – rhan amser


John Medwyn Williams – Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol
Swyddfa – Caernarfon/Dolgellau
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Ymunodd Medwyn â Mantell ym Medi 2009 fel Cydlynydd
Trydydd Sector.
Yn enedigol o Ddyffryn Ogwen mae gan Medwyn brofiad o weithio o fewn y maes Iechyd yn yr hen ysbyty Môn ac Arfon ac yn ddiweddarach yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Bu’n gydlynydd Dysgu Gydol Oes i Gyngor Gwynedd ac yn Swyddog Cymunedol i Goleg Menai.
Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o weithio gyda mudiadau gwirfoddol a chymunedol.


Tîm Plant a Phobl Ifanc


Carwyn James Humphreys –  Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser

Ymunodd Carwyn Humphreys â Mantell Gwynedd fis Awst 2010 yn olynydd i’r swydd fel Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc. Bydd y swydd yn parhau i gynnig cefnogaeth, bod yn lais i’r Trydydd Sector a hwyluso’r cyswllt rhwng y Sector a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd.  Yn ogystal, bydd Carwyn yn parhau i gefnogi a threfnu chyfarfodydd y Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc.  Swyddogaeth eraill y swydd yw bod yn daprarwr gwybodaeth a hyfforddiant i fudiadau sydd yn gweithio yn y maes plant a phobl ifanc.

Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 2008 gyda gradd gyd-anrhydedd mewn Ieithoedd Tramor Modern ac yn 2010 cwblhaodd gwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion fel athro uwchradd. Daw i’r swydd wedi nifer o brofiadau yn y maes plant a phobl ifanc megis fforymau ieuenctid lleol a chenedlaethol.  Bu’n gynrychiolwr pobl ifanc Gwynedd ar y Ddraig Ffynci (Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc Cymru) a chafodd y fraint o gynrychioli plant a phobl ifanc Cymru yn ystod penwythnos yr UKYP (United Kingdom Youth Parliament yn 2002. Mynychodd nifer o gyfarfodydd o’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd yn cynrychioli plant a phobl ifanc y sir, ac mae hefyd wedi bod yn gweithio i’r gwasanaeth ieuenctid Cyngor Gwynedd a phrosiect Clywed, hyn i gyd cyn ac yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn y Brifysgol.

Mae Carwyn yn mwynhau cadw’n heini, gwrando a mynychu gŵyl cerddoriaeth a thrafeilio.


Tîm Cyllid a Gweinyddol


Ceren Williams - Dirprwy Brif Swyddog a Phennaeth Tim Cyllid a Gweinyddu
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amse
r

Ymunodd Ceren â Mantell Gwynedd yn 2001 ar ôl gweithio am 9 mlynedd gyda Cyfle Cyf, elusen gofrestredig sydd yn cynnig hyfforddiant yn niwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, drwy ddefnyddio arian Ewrop ac S4C. Cychwynnodd Ceren ei gyrfa yn yr 80au yn gofalu am gyllid y cynllun gwaith Antur Ieuenctid Gwynedd, oedd yn cael ei ariannu gan arian cyhoeddus.

Mae Ceren yn aelod o’r ‘Association of Accounting Technicians’, ac mae ganddi NVQ level 4 mewn Cyfrifon, a astudiwyd yn Ngholeg Llandrillo.

Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cyllid â mudiadau elusennol. Mae’n brofiadol yn gofalu am gyllid Ewrop, y Cynulliad ac arian cyhoeddus.


Bronwen Rowlands - Swyddog Gweinyddol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amse
r

Cychwynodd Bronwen ei gyrfa gyda Chyngor Gwlad Gwynedd yn 1977 pan ei phenodwyd fel Clerc/Teipydd i’w swyddfa yn Nolgellau, a buodd yn y swydd am saith mlynedd.

Yn 1992 cafodd ei phenodi fel Swyddog Gweinyddol gyda’r Cyngor Gwlad, eto yn Nolgellau hyd ddiwedd Mawrth 1997. Yn ystod y cyfnod yma, cafodd Cyngor Gwlad Gwynedd ei ail enwi’n Gwasanaethau Gwirfoddol Gwynedd.

Ar 1af Ebrill 1997, yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol, fe newidwyd Gwasanaethau Gwirfoddol Gwynedd i Mantell Gwynedd. Symudwyd y swydd Swyddog Gweinyddol llawn amser i Gaernarfon, a chynigwyd y swydd iddi.


Ellen ap Dafydd – Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Swyddfa – Dolgellau
Oriau Gwaith - Rhan Amser - 3 diwrnod - Llun, Mercher a Gwener

Penodwyd Ellen yn Gynorthwy-ydd Gweinyddol yn Swyddfa Mantell Gwynedd Dolgellau ym mis Ebrill 2010.

Cyn hyn bu Ellen yn Gweithio i Gyngor Gwynedd yn dilyn cyfnod yn astudio cwrs NVQ Lefel 3 dwyieithog mewn Gweinyddiaeth Busnes yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.  Penodwyd yng Nghymhorthydd Gweinyddol yn Swyddfa Y Lawnt, Dolgellau yn 2001. 

Yn ystod yr 8 mlynedd gyda Chyngor Gwynedd mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi sy’n cynnwys:

Cynllun Budd-dal Tai Trosiannol – Yn cyflwyno ceisiadau am arian Cefnogi Pobl ar ran unigolion i’w galluogi gyda chefnogaeth i fyw bywyd annibynnol.

Cynllun Lleoli Oedolion - Cynllun sydd yn recriwtio a chefnogi teuluoedd i gynnig gwasanaeth yn eu cartrefi ar gyfer oedolion bregus sydd angen cefnogaeth i fyw bywyd llawn yn y gymuned.

Cynllun Teleofal
– Cynllun sydd yn darparu offer o fewn y cartref er mwyn galluogi’r preswylydd i alw am gymorth petai argyfwng/problem yn codi.

Mae Ellen yn enedigol o Drawsfynydd ag yn dilyn cyfnod ble bu’n byw mewn gwahanol ardaloedd mae nawr wedi ymgartrefu nôl ym mhentref ei genedigaeth.



Tracy Lynne Rotheram - Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith -
Rhan amser – Llun, Mawrth, Iau a Gwener

Penodwyd Tracy fel Cynorthwyydd Gweinyddol i’r Uned Defnyddwyr ym mis Mai 2002 yn dilyn cwrs NVQ 2 yn Busnes a Gweinyddiaeth yng Ngholeg Menai.  Pan ddaeth y cynllun Uned Defnyddwyr i ben yn Fawrth 2006 symudodd Tracy ymlaen i weithio fel gweinyddwraig i’r Adran Grantiau, Iechyd, Gofal a Lles a’r Ganolfan Wirfoddoli.  Mae Tracy ar hyn o bryd yn astudio cwrs NVQ level 3 yn Busnes a Gweinyddiaeth.

Mae Tracy yn mwynhau treulio ei hamser sbâr yn darllen, garddio, carafanio a gwneud cardiau.  Mae hi hefyd yn ysgrifennydd i’w grŵp cymunedol lleol.


Tayera Khan - Derbynnydd
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan amser – Llun, Mawrth, a Mercher

Mae Tayera yn enedigol o Fangor ac wedi cael ei magu yng Nghaernarfon. Mae hi yn medru siarad pedwar ieithoedd Cymraeg, Saesneg, Pashto a Urdu.

Mae ganddi 14 flwyddyn o brofiad yn adran Weinyddol. Yn 1995 bu ddaru Tayera gweithio yn Swyddfa Cyfreithwyr fel Ysgrifenyddes/Derbynnydd ac wedi mynd ar famolaeth i gael ei hail plentyn 2008. Ym Mehefin 2011, aeth Tayera yn ôl i weithio dros dro gyda Mantell Gwynedd ac ym mis Medi 2011, fe ymunodd gyda Mantell Gwynedd fel Dderbynydd rhan amser.

Mae Tayera wedi cwblhau cyrsiau NVQ 2 a 3 mewn Busnes a Gweinyddiaeth yn Hyfforddiant Gwynedd a Hyfforddiant Arfon Dwyfor.

Mae Tayera yn mwynhau treulio ei hamser sbâr yn gwrando ar gerddoriaeth, darllen a hefyd thrafeilio i wledydd eraill.


Kathryn Sarah Dutton – Swyddog Gweinyddol (Busnes yn y Gymuned)
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith – Rhan amser


Tîm Canolfan Gwirfoddolwyr


Rhianon Jones - Cydlynydd Gwirfoddoli
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith -
Rhan Amser – 25 awr yr wythnos - Llun, Mawrth, bore Mercher a dydd Iau

Mae Rhianon yn enedigol o Ddyffryn Conwy. Wedi graddio mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cafodd swydd fel athrawes mewn ysgol uwchradd yn Arfon, a bu’n dysgu am gyfnod o 10 mlynedd. Wedi cyfnod adref yn magu teulu, bu’n gweithio â sawl mudiad gwirfoddol yn lleol. Ymunodd â thîm gwirfoddoli Mantell Gwynedd yn wreiddiol fel ‘Swyddog Maes’ yn Chwefror 2001, ac mae yn ei swydd bresennol ers Gorffennaf 2001. Fel rhan o’i gwaith mae’n rhoi gwybodaeth i bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli, yn cadw cyswllt gyda mudiadau sydd angen gwirfoddolwyr, ac yn hyrwyddo gwirfoddoli yn gyffredinol. Fel ‘Cydlynydd Gwirfoddoli’ mae’n gyfrifol am arwain tim Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd.



Iola Till - Swyddog Gwirfoddoli
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan amser – 2 ddiwrnod - Mercher a Gwener

Mae Iola wedi gweithio yng Nghanolfan Gwirfoddoli Gwynedd ers 2001 ac yn y cyfnod yma wedi cyfarfod llu o bobl ddiddorol, i gyd a’u pryd ar wirfoddoli. Ei gwaith pennaf yw rhoi gwybodaeth i unigolion am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngwynedd a hybu gwirfoddoli yn gyffredinol gyda’r mudiadau a’r cyhoedd.
Bu Iola’n gwirfoddoli ei hun gydag amryw o gymdeithasau, ac nawr mae yn gynrychiolydd ar Gyngor Cymuned Beddgelert ac yn aelod o Gwmni Gwynant Cyf. Ffurfiwyd Cwmni Gwynant i brynu Capel Bethania, Nantgwynant yn 2001 pan gaewyd y Capel fel lle addoli. Mae’r Capel wedi ei adnewyddu fel caffi a thrigolion yr ardal ac ymwelwyr yn elwa o’r adnodd. Galwch heibio am baned a chacen!



Ann Angharad Fleming - Swyddog Gwirfoddoli
Swyddfa – Dolgellau
Oriau Gwaith -
Rhan amser – 3 diwrnod, Llun, Mawrth, Mercher

Ymunodd Ann â thîm Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd yn Ionawr 2003. Mae’n gyfrifol am hyrwyddo gwirfoddoli’n gyffredinol gyda chyfrifoldeb penodol am Feirionnydd.

Mae Ann yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli i’r cyhoedd, recriwtio gwirfoddolwyr a’u lleoli gyda mudiadau addas. Mae Ann ar gael hefyd i ymweld â mudiadau i roi sgwrs am ei gwaith.

Daw o gefndir nyrsio a ddatblygodd i fyd hybu iechyd, ac yn
1990 mentrodd i fyd busnes yn ei thref enedigol sef Tywyn gan agor tŷ bwyta o’r enw Bwyta’n Iach. O ganlyniad i hyn mae’n parhau hyd heddiw i hybu iechyd yn wirfoddol trwy rannu o’i phrofiad i helpu eraill ac yn falch or cyfle bob amser.


Mirain Roberts - Swyddog Gwirfoddoli ymysg Ieuenctid
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith – Llawn Amser

Ymunodd Mirain â’r staff ym Mantell Gwynedd ddiwedd Ebrill 2007. Ei rôl yw hyrwyddo gwirfoddoli ymysg ieuenctid a rhoi gwybodaeth iddynt am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngwynedd. Mae’n barod i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiad am wirfoddoli ond yn canolbwyntio yn bennaf ar wirfoddoli ymysg pobl ifanc, maes sydd yn brysu ddatblygu.

Mae Mirain ar gael hefyd y tu allan i oriau swyddfa i ymweld â mudiadau/grwpiau o bobli ifanc i roi sgwrs am ei gwaith.

Un o brif ddiddordebau Mirain yw canu yn ei chôr lleol, Lleisiau’r Mignedd. Mae hefyd yn ymrwymo i weithio â phobl ifanc yn ei hamser sbâr ac yn rhoi llawer o’i hamser yn datblygu cynlluniau cymunedol ar eu cyfer. .


Tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Sioned Llwyd Larsen - Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith -
Llawn Amser

Penodwyd Sioned i’w swydd ym Medi 2004 o dan y Cynllun Codi Pontydd Cadarn , cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae wedi gweithio mewn amryw o feysydd dros y blynyddoedd yn y sector gwirfoddol yn ogystal â’r sector statudol. Roedd ei gwaith yn cynnwys dysgu a hyfforddi oedolion mewn coleg addysg bellach, rheolwr datblygu partneriaethau, gwaith ymchwil a datblygu ynghyd â nifer o feysydd eraill.

Yn enedigol o’r Parc ger y Bala mae ganddi adnabyddiaeth dda o Wynedd a’i anghenion. Mae ganddi ddiddordeb byw yn y maes y mae’n gweithio ynddo ac wedi gweld budd personol o newid ei ffordd o fyw a gwneud mwy o ymarfer corff


Cynllun Ffrindia’


Carys Williams – Rheolydd Prosiect Ffrindia’
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith – Llawn amser


Nia Haf Jones - Cydlynydd Gwirfoddolwyr Arfon
Swyddfa – Age Cymru, Caernarfon
Oriau Gwaith – Llawn amser


Dawn Thomas – Cydlynydd Gwirfoddolwyr Dwyfor
Swyddfa – Age Cymru, Caernarfon
Oriau Gwaith – Llawn amser


Gwenlli Haf Evans – Cydlynydd Gwirfoddolwyr Meiriionnydd
Swyddfa – Dolgellau a Cynnal Gofalwyr, Penrhyndeudraeth
Oriau Gwaith – Llawn amser



Pwy ydi Pwy | Staff gyda lluniauLlwyddiannau | Swyddi

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru