Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Amdanom NiHydref 2006
Gwaith Mapio

Dyma ddarn o waith hynod bwysig a gomisiynwyd gan Mantell Gwynedd ym 2006.

Cafwyd cefnogaeth ariannol gan Cyngor Gwynedd (Adran Prif Weithredwr a Phartneriaeth Pobl Hŷn), Awdurdod Datblygu Cymru (Canolbarth a Gogledd Cymru) a Bwrdd Iechyd Gwynedd a cyfrannodd Mantell Gwynedd swm sylweddol o arian at y gwaith gan reoli a chyd-lynnu y broses.

Penodwyd cwmni Menter a Busnes i gyflawni’r gwaith a dechreuodd y broses o ymgynghori a chasglu data fis Ionawr 2006.

Pwrpas y gwaith oedd edrych ar maint ag amrediad y sector yng Ngwynedd gyda phwyslais arbennig ar gyfraniad economaidd y sector i economi ehangach y sir.

Bu’n broses drylwyr ac amrywiol a chafwyd cyfarfodydd ymgynghorol ar hyd a lled y sir, cyfweliadau wyneb yn wyneb, cyfarfod grwpiau amrywiol, anfon holiaduron allan ac yna crynhoi a dadansoddi’r holl ddata meintiol ac ansoddol mewn adroddiad gyda chasgliadau clir a phenodol.

Yn dilyn bron i flwyddyn o ymchwilio ac ymgynghori cyhoeddwyd adroddiad “Ein Gwynedd Ni : Mapio’r Trydydd Sector yng Ngwynedd” fis Hydref 2006.

Mae’r Crynodeb Gweithredol yn nodi’r darganfyddiadau pwygig a wnaed:

2. Crynodeb Gweithredol

2.1 Ceir 1,131 o fudiadau yn perthyn i’r trydydd sector wedi eu lleoli yng Ngwynedd.

2.2 Maent yn cyflogi 1,810 o weithwyr, gyda 792 ohonynt yn llawn amser. Mae’r swyddi rhan amser yn cyfateb i 305 swyddi llawn amser ychwanegol, sydd yn rhoi cyfanswm o 1,097 swydd llawn amser gyfatebol. Gyda 49,700 o boblogaeth y sir mewn cyflogaeth mae’r trydydd sector yn cyfrif am o leiaf 2.2% o holl weithlu Gwynedd.

2.3 Yn seiliedig ar gyfartaledd cyflogau wythnosol y sir gellir cyfrifo bod cyfraniad economaidd y trydydd sector yng Ngwynedd yn nhermau cyflogaeth uniongyrchol yn £20,462,000 bob blwyddyn.

2.4 Mae o leiaf 23,000 o wirfoddolwyr yn y sir sydd ar gyfartaledd yn gwirfoddoli am 2.41 awr yr wythnos yr un. Mae gwaith y gwirfoddolwyr hyn yn cyfateb i 1,481 swydd llawn amser. Eto, gan ddefnyddio cyfartaledd cyflogau wythnosol y sir gellir amcangyfrif bod cyfraniad gwirfoddolwyr y trydydd sector yn cyfateb i o leiaf £27,600,000 i economi Gwynedd bob blwyddyn.

2.5 Mae’r trydydd sector yng Ngwynedd yn gwario £21,107,000 yn flynyddol ar brynu nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr lleol yn y sir.

2.6 Mae’r mudiadau yn y sampl sydd wedi eu lleoli yng Ngwynedd yn darparu 307,000 o achosion o fudd (hynny yw pan fydd unigolyn yn cael unrhyw fath o fudd yn deillio’n uniongyrchol o weithgaredd mudiad). Roedd y mudiadau ddywedodd eu bod ond yn weithgar yng Ngwynedd yn darparu 175,000 o achosion o fudd. Ceir dros 46,000 ohonynt yn y sector gofal, iechyd a lles, a 42,000 yn y sector hamdden. Mae’n debygol felly bod nifer o drigolion y sir yn fuddiolwyr i fwy nag un mudiad.

2.7 Mae’r trydydd sector yng Ngwynedd wedi cynorthwyo 933 o bobl i symud o anweithgarwch economaidd i gyflogaeth yn y flwyddyn ddiwethaf.  Cynrychiola hyn 6% o’r holl boblogaeth economaidd anweithgar yng Ngwynedd. Roedd y mudiadau wedi cyflogi yn uniongyrchol 254 o bobl a oedd yn economaidd anweithgar yn y deuddeg mis cyn cwblhau’r holiadur, ac roedd 679 o’u gwirfoddolwyr a oedd yn economaidd anweithgar cyn dechrau gwirfoddoli gyda nhw yn y deuddeg mis diwethaf wedi mynd ymlaen i ganfod gwaith.

2.8 Mae incwm blynyddol y trydydd sector yng Ngwynedd cyfwerth â dros £38,845,000.

2.9 Mae hanner y mudiadau yn derbyn peth o’u hincwm o’r pwrs cyhoeddus gyda dros traean yn derbyn incwm o’r Awdurdod Lleol. Mae dros hanner y mudiadau sydd yn derbyn incwm gan yr Awdurdod Lleol yn ddibynnol ar grantiau am dros hanner eu cyllid. Mae hyn yn tanlinellu rôl allweddol Cyngor Gwynedd wrth gynorthwyo i sicrhau hyfywedd ariannol y mudiadau hyn a’i gyfraniad pwysig fel un o brif gynheiliaid gwaith y trydydd sector yn y sir.

2.10 Mae mudiadau iau y trydydd sector yng Ngwynedd ar y cyfan yn fwy dibynnol ar grantiau na’r mudiadau h ŷ n.

2.11 Mae gan y trydydd sector yng Ngwynedd asedau gwerth £80,480,000, ond yn nhermau adnoddau ffisegol nododd canran uchel o fudiadau bod angen newidiadau i adeiladau neu adeiladau newydd er mwyn eu gwneud yn fwy addas ar eu cyfer.

2.12 Dim ond 29% o fudiadau oedd yn defnyddio unrhyw dechneg i asesu neu werthuso eu cyfraniad cymdeithasol. Nid yw’r astudiaeth hwn yn pennu gwerth ariannol i’r cyfraniad ehangach hwnnw i gymunedau’r sir.

2.13 Y prif rwystrau sydd yn atal datblygiad mudiadau’r trydydd sector yng Ngwynedd yw materion ariannu, adnoddau amser a diffyg gwirfoddolwyr. Mae anghenion cefnogaeth y sector yn adlewyrchu hyn gyda chymorth ariannol a chymorth gyda recriwtio gwirfoddolwyr ar frig y rhestr. Nodwyd hefyd yr angen am gymorth marchnata, cefnogaeth a chyfarpar cyfrifiadurol, hyfforddiant i wirfoddolwyr a hyfforddiant iechyd a diogelwch.

2.14 Yn hanesyddol mae’r mwyafrif llethol o fudiadau yn y trydydd sector yng Ngwynedd wedi bod yn elusennau cofrestredig, ond mae’r tueddiad hwnnw’n newid. Roedd y mudiadau iau yn tueddu i fod yn fwy amrywiol o ran eu statws cyfreithiol, ac yn fwy tebygol o fod wedi eu cofrestru fel Cwmnïau Cyfyngedig Trwy Warant, a chanran uwch hefyd yn gymdeithasau anghorfforedig.

2.15 Mae canran uwch o’r mudiadau iau yn gweld rôl mwy penodol iddynt eu hunain yng nghyd-destun adfywio lleol o’i gymharu a’r mudiadau h ŷ n.  Awgryma hyn bod y mudiadau mwy newydd yn y trydydd sector yng Ngwynedd yn fwy ymwybodol o allbynnau caletach eu gwaith a’u heffaith cymdeithasol ac economaidd ehangach ar eu hardal.

2.16 Mae’r mudiadau a sefydlwyd yn fwy diweddar yn darparu gwasanaethau mewn ystod ehangach o weithgaredd na’r mudiadau h ŷ n. Mae nifer o’r gwasanaethau hyn mewn sectorau twf a fydd yn chwarae rôl llawer mwy canolog yn natblygiad economaidd Gwynedd yn y blynyddoedd i ddod.

2.17 Nododd nifer o fudiadau eu bod am gael gwell mynediad i wybodaeth gyfredol am ffynonellau grantiau. Teimlwyd hefyd bod angen i ddarparwyr grantiau fod yn fwy parod i dalu costau craidd, i gynnig grantiau tymor hirach ac i barhau i ariannu gwaith sydd eisoes yn llwyddo.

2.18 Mae cydnabyddiaeth gref ymhlith mudiadau bod yr hinsawdd ariannu wedi newid yn sylweddol, gyda nifer cynyddol yn barod i ystyried cynhyrchu mwy o’u hincwm eu hunain trwy weithgaredd masnachol pan fo hynny’n bosib. Nododd nifer o swyddogion serch hynny eu bod yn cael trafferth darbwyllo eu hymddiriedolwyr o fanteision gwneud hynny. Roedd cyfyngiadau amser staff a gwirfoddolwyr hefyd yn llesteirio hyn.

2.19 Mae diffyg olyniaeth yn ofid mawr i nifer o fudiadau, gyda rhai’n dweud yn agored y byddai eu gwaith yn debygol o ddod i ben ymhen ychydig flynyddoedd os nad oedd modd sicrhau chwistrelliad o wirfoddolwyr newydd. Mae goblygiadau difrifol yn hyn o beth, nid yn unig i’r sector yn y sir ond hefyd i’r darparwyr gwasanaethau megis yr awdurdod lleol a fydd yn gorfod llenwi’r bylchau adawyd ar ôl.

2.20 Mae diddordeb mawr ymhlith y sector i ddysgu mwy am ddulliau mesur effaith cymdeithasol ac economaidd ehangach eu gwaith. Byddai hyn nid yn unig yn help i brofi gwerth y sector, ond hefyd yn arf gwerthfawr wrth geisio denu mwy o adnoddau i gefnogi ei gwaith – boed rheini’n adnoddau ariannol neu yn adnoddau dynol. Byddai hyn hefyd yn annog mudiadau i weithredu’n fwy bwriadol i dyfu a datblygu’r cyfraniad hwnnw ymhellach.

2.21 Mae’r trydydd sector yng Ngwynedd yn awyddus i sicrhau rôl allweddol wrth ddiwallu nifer o anghenion agenda Creu’r Cysylltiad Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gwelir hyn fel sylfaen gref ar gyfer twf y sector yn y blynyddoedd i ddod.

2.22 Teimla’r sector y byddai datblygu rhwydweithiau cryfach yn rhanbarthol o fewn y sir (h.y. Arfon, Meirionnydd a Dwyfor) yn fanteisiol. Edrychwyd yn naturiol ddigon i gyfeiriad Mantell Gwynedd i hwyluso hyn.

2.23 Mae awydd ymhlith y trydydd sector yng Ngwynedd i ddatblygu perthynas agosach gyda’r sector breifat yn y sir. Dylai hyn arwain at sicrhau mwy o adnoddau a chreu cyfleoedd hyfforddi a mentora yn ogystal â chynorthwyo’r mudiadau i ddod yn well busnesau. Byddai mwy o gydweithio ymarferol hefyd yn sail i berthynas newydd wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf.

Cliciwch yma am fwy…

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru