Llwyddiannau
Bydd Mantell Gwynedd o dro i dro yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws y sir. Ceir cyfle yma i flasu bwrlwm y digwyddiadau hyn ac edrych yn ôl ar lwyddiannau’r gorffennol.
Oes gan eich mudiad chi stori ddifyr neu lwyddiant i rannu ag eraill, os felly cysylltwch â ni ac fell all eich stori gael ei chynnwys yn yr adran hon?
Mehefin 2007
Wythnos Gwirfoddoli
1af - 7fed o Fehefin 2007
Mae'r wythnos gyntaf ym mis Mehefin wedi hen ennill ei phlwyf
yng nghalendr gwirfoddoli erbyn hyn, gan ei bod yn cael ei hadnabod yn genedlaethol fel ‘Wythnos Gwirfoddolwyr’ ers 23 o flynyddoedd, bellach. Nod yr wythnos yw Cydnabod,
Recriwtio a Gwobrwyo gwirfoddolwyr
Cliciwch yma am fwy…
Hydref 2006
Gwaith Mapio
Dyma ddarn o waith hynod bwysig a gomisiynwyd gan Mantell Gwynedd ym 2006.
Cafwyd cefnogaeth ariannol gan Cyngor Gwynedd (Adran Prif Weithredwr a Phartneriaeth Pobl Hŷn), Awdurdod Datblygu Cymru (Canolbarth a Gogledd Cymru) a Bwrdd Iechyd Gwynedd a cyfrannodd Mantell Gwynedd swm sylweddol o arian at y gwaith gan reoli a chyd-lynnu y broses.
Penodwyd cwmni Menter a Busnes i gyflawni’r gwaith a dechreuodd y broses o ymgynghori a chasglu data fis Ionawr 2006.
Cliciwch yma am fwy…
Tachwedd/Rhagfyr 2006
Digwyddiad Hybu Iechyd a Lles
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad arbennig ar gyfer gweithwyr y sector gwirfoddol, gofalwyr a gwirfoddolwyr yng Ngogledd y Sir ac yn Ne’r Sir yn ddiweddar. Cynhaliwyd y cyntaf yn y Clwb Criced ym Mangor ar Dachwedd y 30ain a’r ail ddigwyddiad yn y Ganolfan Hamdden yn Nolgellau ar Ragfyr y 12fed. Cliciwch yma am fwy…
Awst 2005
Eisteddfod Genedlaethol Eryri
‘Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ar drothwy drws Mantell Gwynedd yn stad y Faenol ym 2005 a gwelodd Mantell gyfle i wneud yn sicr fod y Trydydd Sector yng Ngwynedd yn cael lle blaenllaw ar faes yr Eisteddfod.
Ffurfiwyd Grŵp Llywio o fewn Mantell i gydlynu a chynllunio safle ganolog i’r sector ar faes yr wŷl gan sicrhau rhaglen o weithgareddau amrywiol a lliwgar.
Cliciwch yma am fwy…
Pwy ydi Pwy | Staff gyda lluniau | Llwyddiannau | Swyddi