Prescripsiwn Cymdeithasol

Poster Cyswllt Cymunedol Mantell Gwynedd

Cyswllt Cymunedol Mantell Gwynedd - Cynllun Presgripsiwn Cymdeithasol

Mae’r swydd Swyddog Cyswllt Cymunedol yn rhan o brosiect presgripsiwn cymdeithasol ehangach. Mae y cynllun yn cefnogi gweledigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sef gwella iechyd y boblogaeth, datblygu gwasanaeth iechyd integredig a darparu gofal rhagorol mewn partneriaeth efo cyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys mudiadau’r Trydydd Sector. Mae'r cynllun hefyd yn cyd-fynd â chyfeiriad y Llywodraeth sydd wedi ei osod yn y Ddeddfwriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Pwrpas swydd y Swyddog Cyswllt Cymunedol yw cefnogi unigolion i nodi beth sydd bwysicaf iddynt a gwella eu hiechyd a'u lles trwy eu cysylltu ag adnoddau cymunedol, grwpiau, gwasanaethau a gweithgareddau sy'n diwallu eu hanghenion a'u diddordebau. Mae'r cynllun yn darparu cefnogaeth bersonol i helpu unigolion i feithrin hyder, cymryd camau cadarnhaol tuag at eu nodau, a dod yn fwy cysylltiedig â'u cymunedau.

Gall unigolion cael eu cyfeirio gan weithwyr gofal iechyd, sefydliadau partner, aelodau o'r teulu, ffrindiau, neu drwy hunangyfeirio lle bo'n briodol. Bydd y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn derbyn atgyfeiriadau'n electronig, trwy alwad ffôn neu e-bost.

Ar ôl derbyn cyfeiriadau:

  • Trefnir sgwrs gychwynnol i drafod cryfderau, diddordebau, amgylchiadau a nodau'r unigolyn.
  • Bydd gwasanaethau, grwpiau, gweithgareddau a chyfleoedd lleol priodol yn cael eu hadnabod ar y cyd i gefnogi lles yr unigolyn.
  • Yna, gwneir cysylltiad â'r gweithgaredd, y sefydliadau neu'r adnoddau priodol.
  • Pan fo angen, darperir cymorth ymarferol i helpu unigolion i gael mynediad at weithgareddau a gwasanaethau, megis mynd gyda nhw i gyfarfod cychwynnol, gwneud cyflwyniadau neu gefnogi'r cyswllt cyntaf â sefydliad.
  • Cynhelir adborth ac adolygiadau yn barhaus i fesur effaith y cynllun.


Mae gweithgareddau lleol yn cynnwys:

  • Rhaglenni gweithgaredd corfforol a ffordd iach o fyw
  • Cymorth iechyd meddwl a lles emosiynol
  • Grwpiau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol
  • Cymorth gyda chyflogaeth a sgiliau
  • Cyfleoedd dysgu, hyfforddiant a gwirfoddoli
  • Cyngor ar les ariannol, budd-daliadau a dyledion
  • Cymorth yn ymwneud â thai
  • Cymorth i ofalwyr a phobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor

Nod y cynllun yw:

  • Galluogi unigolion i wneud dewisiadau gwybodus a chymryd rheolaeth dros eu lles.
  • Cryfhau cysylltiadau â chymunedau lleol.
  • Meithrin hyder, gwydnwch ac annibyniaeth.
  • Lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
  • Gwella lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.
  • Cefnogi pobl i gyflawni nodau sy'n ystyrlon iddynt.
  • Gwella ansawdd bywyd a lles cyffredinol.
  • Hyrwyddo ymyrraeth ac atal cynnar.

Bydd y broses o werthuso’r brosiect yn cael ei gynnal drwy ddefnyddio’r model SROI (Ymgynghoriad Cyfrifon Cymdeithasol). Mae’r model yma yn pwysleisio ar arddangos gwir effaith personol a chymdeithasol ac effaith y prosiect ar fywydau pobl.

Am fwy o wybodaeth:

Dewch i fewn i’r swyddfa: Mantell Gwynedd, 25 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB
Rhif ffôn: 01286 672626
E-bost: linc@mantellgwynedd.com

 

Cliciwch yma i hunan gyfeirio